Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 02 Meh 2006 10:56 am

Wierdo a ddywedodd:Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Botel Dwr poeth yw fy ateb i bob math o boen!


Wy' ti'n nyrs ysgol? :?

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na. O'n i arfer pan n blentyn. Yn enwedig ar hewl Builth. :lol:
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Dibynnu ar y cyd destun. Ond yn gyffredinol, fi'n methu diodde poen. Ma'n alergedd.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Neithiwr. O'dd dim papur toilet yn ty, a nes i'm sylwi tan ar ol gorffen cachu. Gair o gyngor - peidiwch defnyddio "Lemon wipes" (sy'n cynnwys ethanol :rolio: ) ar eich tintws. Gwell defnyddio dim byd a drewi o gachu.
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Boi bach ffein
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Newydd ga'l wy ar dost, coffee, sigaret a sherbet lemon. Mmmmmmmmm. Ma'n ana'l 'i'n debyg i, wel, fel fi'n sillafu anadl. Dal i ddrewi o gachu...a lemwn. Eh? Eh? Noson Lawen, nos 'fory. Sgwar.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 02 Meh 2006 11:04 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na, darllen yn y car bob tro, wedyn cysgu. Dwi'n joio awyrennau a chychod yn ofnadwy. Wastad â sedd ffenest.
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Mae angen bach o boen weithia does? :winc:
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Dwi ddim di cael cnoc ers tipyn ond y tro dwetha wnes i damej oedd pan ges i carpet burn ar fy nghen ar ôl gwneud 'glow-worm' aflwyddiannus mewn cystadleuaeth break-danwsio yn y fflat am tua 4yb. Tua mis Gorffenaf dwetha oedd hi. Oedd gen i briodas y penwythnos canlynol ag oedd raid esbonio i bawb be oedd y rheswm dros y grachen od.
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Dwi ddim rili'n cofio lot. Jest gadael i fywyd lifo heibio'n ara bach, tra'n yfed, smocio a gwrando ar tecno.
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Dim byd rili. Dwi'm yn un am snacio yn ystod y dydd, a dwi heb gael panand bora ma chwaith. Blas sur braidd ella, ar ôl diwrnod shit ddoe.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan garynysmon » Gwe 02 Meh 2006 11:07 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Dim ond os dwi'n darllen a wedi bod allan y nososn gynt.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Panicio a gwneud sioe.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ew, dwnim. Wnesh i neud fy nghefn i fewn wsnos dwytha a wnath fy nghariad ddim stopio chwerthin ar fy mhen i.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Eitha distaw, meddwl mod i'n uffar o foi am mod i'n mynd i Tafarn y Rhos bob nos Wener :?
Gwrando ar lot o Dance Music, Big Leaves a'r Dipsomaniacs os dwi'n cofio'n iawn.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

Wrthi'n yfed can o Fanta ar y funud.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 02 Meh 2006 11:10 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Ddim yn amal - ond wy methu darllen tra bo fi mewn car rhagor (sy'n rhyfedd, am bo fi'n cofio darllen Lord of the Rings mewn cefn car. Dwywaith :? )

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Gai ddim tantrum na'm byd, ond wy'n tueddu mynnu fwy o sylw gan bobl.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma 'mysedd i'n brifo nawr. Cnoi gwinedd, neu'n hytrach rhwygo'r croen ddylai fod rownd y gwinedd :wps:

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Diffyg hyder difrifol, ond yn dechrau joio mentro mas o'r 'safety zone' nawr ac yn y man. Es i glwb nos Barnums am y tro cynta a yfed lime bacardi breezer mewn trwser gwyn :ofn:

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Coffi. Mmmmmm.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Fatbob » Gwe 02 Meh 2006 11:10 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Odw, a dwi bant i Lunden fory ar y tren - yn llanw'r ipod nawr yn barod i'r daith.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
I fi'n un o'r bobol ma sydd ddim yn mynd i weld doctor tan y mod i biti farw (h.y. pythefnos wedi i fi ddechre fod yn sâl neu gael dolur), dwi di arfer a poen oherwydd hyn. A ma tablets yn helpu.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Dores i un o'r esgyrn metatarsal yn y nhroed tua pythefnos yn ôl, dim syniad da fi fel wnes i fe ond fe ges i reid fach neis mewn cadair olwyn yn Glangwili.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Tew, hapus, brwdfrydig, diniwed.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Bisgien siocled Tesco Faliw, ma fe'n reit neis i feddwl taw mond 26c oedd y pecyn.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 02 Meh 2006 11:11 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

Nadw fel rheol. Y tro dwetha i hyn ddigwydd oedd ar y llong draw i Iwerddon ar gyfer y rygbi. Roedd hi'n stormus a minnau wedi bod yn yfed ers naw y bore.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

Chwerthin. MACHO MAN!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?

Torri mys tra'n golchi'r metzaluna.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

Pissed off gyda'r byd ac yn gwrando gormod ar fandiau gwael.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

Coffi.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Barbarella » Gwe 02 Meh 2006 11:21 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na, cysgu'n sownd o fewn 5 munud wrth fynd mewn car/trên/bws.

Awyrennau'n fwy problematig: fy nghlustiau'n cael problemau mawr efo'r newidiadau mewn pwysedd awyr, sy'n eithriadol o boenus. Wedi llewygu mwy nag un unwaith wrth lanio. Go iawn, ddim jysd bod yn drama cwîn. :x

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Anwybyddu pawb a phopeth sydd o 'nghwmpas, a mynd mewn i byd bach hyfryd fy hun, yn llawn caneuon neis a phobl pert. Ymateb yn gas iawn i unrhywun sy'n ceisio siarad efo fi.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
8 yn y bore, mewn cae ger Llandwrog, rhai wythnosau nôl, mewn cystadleuaeth rowlio-lawr-bryn. Carreg yn rhwygo 'ngwyneb ar agor, a thorri dwy asen. 20 pwyth. Ond dwi'n edrych yn hard nawr. Falle. Fi ennillodd y gystadleuaeth, beth bynnag 8)

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Esgus bod lot mwy hyderus a hunan-sicr nag o'n i mewn gwirionedd. Chydig yn deneuach. Lletchwith. Ffysi.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Houmous / bagel / coffi du. Neis.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 02 Meh 2006 11:27 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Mi o'n i'n arfer bod yn ddrwg iawn am wneud hyn, ond mi wellish i hyd at allu darllen a gwnio (ahem) am oriau ynghefn y car.
Bellach, mae'r aflwydd yn ei ôl, a dwi ddim yn teithio'n dda o gwbl. Corris oedd y tro diwethaf i fi hefyd.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Cwyno :wps:

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Llosgi 'nghlun dde yn haul Biarritz

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Ychydig fodfeddi yn yn ddiflasach nag ydw i ar hyn o bryd, a heb yr annibyniaeth

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Smŵddi ffrwythau
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan HBK25 » Gwe 02 Meh 2006 11:32 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

Nacdw - dim ers o'n i'n blentyn.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

Mynd "grrrrrr!" a cheisio edrych yn galed!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?


Dwi'm yn siwr.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

Dwi jyst abowt yn cofio beth o'n i fel yn 16 oed. I ddweud y gwir dwi 'di ceisio blocio'r atgofion o'n meddwl achos mai geek bach ffol, moody 'oeddwn i ary y pryd.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?[ Chery Coke a love juice Nelly Furtado[/b] :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 02 Meh 2006 11:37 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na, nefar, byth. Sai'n deall pobl sy'n teimlo'n sal jyst achos bo nhw'n symud. Ath un o'r bois yn sal ar ffor i Dublin unwaith, sai di gweld neb mor wyrdd erio'd. Odd e actiwali yn wyrdd. Ffacin hileriys.
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Wy'n dda yn ymdopi da poen... ma rwbeth yn ffacin bod 'da fi o hyd so wy di arfer. Www, ma Barbarella newydd atgoffa fi bo da fi broblem da nghlustie pan wy'n hedfan. Poen mochedd yw hwnna. Wy'n cnoi fatha buwch ar asid ond ma nghlustie i dal yn ffecin popio. Moch.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Dim y tro dwetha, ond wath i fi gymryd mantais o hwn i ddangos i chi bo fi'n hero: torres i fy mhigwrn wrth dynnu meddwyn o ffor bws ar ffor y Castell, Caerdydd. Cododd y mochyn lan, abiwso fi, cico fi ar lawr a cer'ed bant... odd dim clem da'r mochyn meddw bo fi di achub 'i fywyd e. Nai'm trafferthu tro nesa.
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Liam Gallagher hyll, blond, sgini. Proper penis.
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Ges i sosej sanwij bore ma... difaru nawr rili achos wy ddim yn gwbod os oes lle i ginio... am gael hufen ia o Cadwaladers ddo. Deffinet. neu falle sorbet. Joio sorbet.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai