Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Bydd dagrau yn siwr o lenwi'n llygaid bob tro y bydd fy chwaer yn rhoi Chinese burn i fi (sy'n eitha aml).
Mae hyn yn sobor o beth, a ninna'n 28 a 25. Ddyliwn i sdopio bellach, tybed? Ond dwi mond yn gneud pan fydd y Twyllwr yn mynd ar fy nyrfs i (drwy fy mlacmelcio ynglyn a chynnwys y
Dream Boy Book a ballu), a ddim gannoedd o filldiroedd i ffwr.
Ella bod ganddo fo rwbath i neud efo bod adra yng nghartref ein plentyndod hefyd... Eniwe, sori - a gobeithio na fydd hyn yn gneud i chi feddwl amdana i fel person treisgar.
Ta waeth, dwi am ateb Pump am y Penwythnos rwan, am y tro cynta ers tua 2 flynedd dwi'n siwr.
Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Teimlo'n sal, ond byth yn taflyd i fyny. Pan fydda i'n teimlo'n sal mor mi fydda i'n halwsinetio. Wel, mond unwaith mae hyn wedi digwydd go iawn, ond dwi'n dal i arswydo wrth feddwl am y peth. Dafydd Iwan a seicadelia. Cofio'n iawn.
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Tabledi. Y rhai cryfa y medra i eu prynu dros y cowntar.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Wsnos dwytha, pan gaeodd drysau otomatig Adran Llawysgrifau'r Llyfrgell Gen arna i. Mi gysgish i'n gam neithiwr hefyd ac mae 'mhen 'sgwydda i'n lladd. Ond dwi'm yn heipocondriac na'm byd.
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Gwirion. Ro'n i'n diffinio fy hun yn nhermau'r crysh cwbl afresymol 'ma oedd gen i.
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Blas Orbit glas, fel sy am o leia 12 awr y dydd, bob dydd. Dwi'n
chain-chewer. Ateb diflas ond gwir.