Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan penn bull » Gwe 02 Meh 2006 11:39 am

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Dim ond mewn tacsis am ryw reswm :?:

mi nesi chwydu wrth ddreifio unwaith :ofn:
oni'n styc yn neud tua 10 m.y.a. y tu ol i garafan yn croesi'r flyover ynghanol Cynarfon ar banc holide poeth.
'Di bod yn yfed gormod o ddwr oni, nath y chwd hitio'r windscreen efo grym mwya. Eshi chwys oer, afiach.

Dwi jyst yn cofio rhoi'r weipars 'mlaen a dim byd yn digwydd - diwrnod rhyfedd

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Cwyno.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Crafu mhenglinia yn chwara 5-a-side ar astroturf bob hyn a hyn

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
yn breuddwydio a mewn band

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
bisgendi 'nice'
My love she speaks like silence
Without ideals or violence
Rhithffurf defnyddiwr
penn bull
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 330
Ymunwyd: Llun 19 Rhag 2005 11:44 am
Lleoliad: newydd fynd mewn i dwnel (dim signal)

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Chwadan » Gwe 02 Meh 2006 1:07 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na, rioed.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Cymryd paracetamol. Neu weiddi a rhegi. Neu os dwi'n cerdded mewn i ffenest siop frechdanau, cerdded i ffwrdd yn gloff gan obeithio bo neb di sylwi.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Nes i losgi fy mhenglin wsnos dwytha tra'n ista ar y soffa a smwddio ar y bwrdd coffi.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Oes rhaid? Snogio petha hyll, trio pasio ffiseg TGAU. Es i i'r Sandancer heb ddeud wrth dad, wedyn nath o ffeindio allan a gweiddi "twll tin y byd!". Di dad byth yn rhegi.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Nectarin a phanad.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 02 Meh 2006 1:19 pm

Chwadan a ddywedodd: nath o ffeindio allan a gweiddi "twll tin y byd!"


:lol: cracing pump wthnos ma rhwng hynna a tintws iesu nicky grist! :lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan docito » Gwe 02 Meh 2006 1:26 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Na

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Uffernnol

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
stubbed toe neithiwr

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Twat

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
airwaves ceirios

8 Gair - Beat that!
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 02 Meh 2006 1:37 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Dim os fi sy'n gyrru.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Yn swnllynd

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Pan gododd y mab a bwrw ei ben o dan fy ngên, tuag wythnos yn ôl.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Annymunol, hollwybodus, cwynfanllyd, bytholfeddw.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Poer.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 02 Meh 2006 1:45 pm

Ray Diota a ddywedodd: :lol: cracing pump wthnos ma rhwng hynna a tintws iesu nicky grist! :lol:

A peided anghofio stori chwydu pen bull (hoff ddarn: "Dwi jyst yn cofio rhoi'r weipars 'mlaen a dim byd yn digwydd") ac ail ddyfodiad Gwen :D

Wierdo a ddywedodd:"Pup" am y penwthnos? Deni'n cynnig sacrifices i dduw y cwestiynnau wan llu?!

Co shwd un 'yf fi - fues i mor drylwyr a rhoi'r 5 cwestiwn trw cysill ( :wps: ), cyn teipo teitl ddi-synnwyr yn ddi-feddwl. Noben :rolio:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 02 Meh 2006 3:14 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Roeddwn i'n arfer mynd yn sâl yn y car pan oeddwn i'n fach, ond dwi'n iawn erbyn hyn.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Mae gen i threshold poen eitha isel, felly mae na rywbeth yn brifo yn aml. Dwi ddim yn delio gyda'r peth yn dda iawn, i ddweud y gwir.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Ychydig yn fyrrach na rydw i rwan, gwallt llai diddorol. Roeddwn i'n llai annibynol, llai clyfar a mwy diniwed bryd hynny, ond dydw i ddim wedi newid cymaint â hynny.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Dim byd llawer. Wrap cyw iâr cesar oedd y peth ola i mi fwyta, felly efallai y bacwn o hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Manon » Gwe 02 Meh 2006 4:04 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Dim yn y car, ond 'dwi'n ofnadwy mewn llongau.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Epidural 8)

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Coci. O'n i'n meddwl bod meddwi a snogio llwyth o ddynion yn cool ar y pryd :wps:

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Hadau pwmpen wedi eu rhostio efo halen. Iym!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 02 Meh 2006 4:10 pm

krustysnaks a ddywedodd:Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Manon a ddywedodd:Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Rhyfeddol. Ydych chi'n rhannu'r un traed?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan nicdafis » Gwe 02 Meh 2006 4:23 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

Nadw, ddim fel arfer. Methu darllen mewn car, ond dw i'n iawn mewn bws/trên. Well 'da fi beidio wynebu'r cefn mewn trên.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

Dw i ddim. Blows merch fawr ydw i.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?

Neithiwr, ar ôl bwyta cocws bach yn dodji. Chwydais am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

Diniwed ym mron bob ystyr. Wedi darganfod roc a rol, ond nid y ddwy ran arall o'r Drindod.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

Does dim blas yn fy nheg. Rhaid bod hi'n amser swper!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron