1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Neud pancos gyda mamgu pan o'n i'n fach siwr o fod.
2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
HAh! Fi'n gallu ffrio pethe, a gneud cyrri. Ma unrhyw beth arall yn pwsho'i braidd. Wel heblaw am pasta.
3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Cyrri, neu mynd a nhw mas am fwyd.
4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Ah. Ym llosgi pasta. Nath y dwr ferwi'n llwyr gan adel haenen dew o basta a saws yng ngwaelod y sosban. Odd rhaid taflu'r sosban.
5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?
Mamgu, a chefs sy'n neud pryd deche dim y ffaffan o gwmpas ma chi'n gal ar teledu.