1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Pryd go iawn - ddim yn siwr. Bues i'n potshan efo gwneud manion ers i mi fod yn tua 10...
2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Dwi'n creu fy saws pasta fy hun drwy daflu be bynnag sydd yn y cwpwrdd a'r oergell i mewn iddo (sweet chilli sauce, French dressing, saws afal, tun tomatos, nionod 'spring onions') - mae'n edrych ychychig yn od, ond mae o'n rhyfeddol o neis.
Hefyd, dwi'n licio banana a dêts wedi eu lapio mewn bacwn a'u coginio yn y popty, ond dydi hynna'm yn ecsgliwsif i fi.
3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Byddai'n well i mi beidio â chogionio'r pasta a'r saws! Ymm... wnim, dwi'n fwy tebygol o wario lot ar fwyd môr crand o M & S na mynd i drafferth fy hun, a'i weini gyda darn mawr o fara Ffrengig, potyn o fenyn garlleg a gwin (dwi'n swnio'n uchel-ael iawn, ond byddai'n saffach na gwneud smonach gastronomaidd).
4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Yr '"Energy Drinks" yr oeddwn yn eu gwneud bob tro o'n i'n dojo'r ysgol ers talwm. Pan fyddai hyn yn digwydd, a'r Twyllwr adref ei hun, byddai'r gegin yn un cwmwl o flawd a byddai rhyw sylwedd gludiog o lefrith ac wyau yn gorchuddio'r wyrctops. Wrth gwrs, doedd gen i ddim tystiolaeth bod y fath gymysgedd (fel cymysgedd cacen heb ei choginio) yn rhoi egni.
Cofio trio gwneud turkey burgers ar ol Dolig un flwyddyn hefyd. Minsio'r cig ac yna torri wy ar ei ben... Hmm - dwi ddim yn meddwl mai dyna'r ffordd rywsut.
5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?
Nain yn dda am ei chinio Dydd Sul. Roedd y Nain arall yn dda am wneud tships a ballu. Mae pobl sy'n gwneud bwyd Chinese y Felinheli yn dda iawn hefyd