Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 1:00 pm
gan joni
Iesu Nicky Grist a ddywedodd: Rhywun yn cofio "Dei a Del yn y gegin"?

Thanciw. Dwi di bod yn trio meddwl am enw'r llyfr yna trwy'r bore.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 1:19 pm
gan Llewelyn Richards
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?

Crymbl afal mewn gwers goginio ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd.

2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?

Mae mymryn o jili/powdr cyrri/coriander yn cuddio llawer o wendidau mewn rysait sydd ddim cweit di dilyn y sgript.

3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?

Ysbinbysg y môr mewn saws coconut, leim a garlleg :winc:

4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?

Tynnu rhywbeth allan o'r popty yn rhy boeth a'i golli ar lawr.

5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?

Keith Floyd wrth gwrs.

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 1:34 pm
gan Dili Minllyn
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Rhyw 8 oed: rystáit o lyfr coginio'r Mr Men yn cynnwys selsig, tatws a wynwns.
2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Mae gyda fi lu o wahanol ffyrdd i wneud caws pôb
3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Rhywbeth Iddewig. Cawl a kneidlach, efallai.
4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Coginio gyda chwrw.
5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?[/quote]
'Ngwraig.

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 1:53 pm
gan Norman
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Cofio neud bisgedi efo mam, a crempoga efo ffrindia, pan yn ddeg oed ballu, wedyn tra yn yr ysgol uwchradd, t chwaer a minna yn coginio ir teulu unwaith yr wythnos.
2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Oes wir, fflapjacs gêr yn un peth, a pasta efo pinafal & becyn
3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Brecwast
4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Llosgi rhwy betha wedi i mi ddisgwyn i gysgu tua unwaith y mis
5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?[/quote]
Dwmbo wir, cwestiwn anodd. Eidalwyr !?

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 2:01 pm
gan dafydd
Beti a ddywedodd:Na...ond i ategu at hyn, oes 'na rywun yn cofio Hasta Pasta efo Richard Harrington?

Cofio fe'n iawn.. wnes i wneud trac (cerddoriaeth) yn cynnwys sampls o Hasta Pasta.. wna'i drosglwyddo fe i mp3 pan ga'i gyfle :)

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 2:41 pm
gan Y Fampir Hip Hop
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Pan o ni'n tua 7 ne 8 tries i ennill bathodyn 'Home Help' yn Cubs, goffes i neud Ffa pob ar dost. Fi'n siwr odd mam yn helpu ddoe, so fe'n syniad da i adel crwtyn 8 mlwydd oed ware da'r cwcer di e.
2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Wir wir, dwi'n hoff iawn o neud Pasta gyda Pancetta neu Cig moch Eddie Shincin os ydy e dim ar gael. Mae'n wych, ond ma fy wejen pyllu fyta e, ma ddi'n dweud ma fe rhy hallt.
Bolycs, mae'n lush. :winc:
3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Wele uchod! Neu ryseit o llyfyr Jamie Oliver yn yr Eidal, ma'r Tagliattelle Linguini gyda belau o cig selsig yn lyfli.
4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Cwco Spag Bol wythnos d'wetha, llosges i'r Spagetti ar ymyl y sosban, odd y gwaelod yn iawn, ond goffes i dechre 'to. :x
5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?
Cwestiwn haws, Bryn Williams o GB Menu, bachan!

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 2:48 pm
gan Sili
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
Lot o bastai bach mwdlyd o'r ardd yn anrhegion i mam pan oni mewn napis.

2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Nagoes, dim byd hollol wreiddiol. Ond mi ydwi'n gallu coginio y Tikka Masala gora'n y byd.

3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Mynd a nhw allan am fwyd fyddwn i. Duw a wyr na fyddai'r dylanwad mor dda a hynny wedi i ngwestai blasu mwyd i!

4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
Nesi drio berwi tatws heb ddwr unwaith :wps:

5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?
Mam, wrth gwrs.

Re: Pump am y Penwythnos - 9/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 3:13 pm
gan khmer hun
joni a ddywedodd:
Iesu Nicky Grist a ddywedodd: Rhywun yn cofio "Dei a Del yn y gegin"?

Thanciw. Dwi di bod yn trio meddwl am enw'r llyfr yna trwy'r bore.


Del a Dei yn y Gegin fi'n credu o'dd enw fe. Nes i neud y cacenne pyramid coconut 'na da'r ceirios ar y top ddegau o weithie a fforso pobol yn ysgol i fyta nhw. Cofio bod y gwyddonydd Dr Eirwen Gwynn yn codi ffys achos bod lot gormod o siwgwr (neu halen?) yn y ryseitiau... Jamie Oliver yr oes ma'n rhaid.

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 2:09 pm
gan Mwddrwg
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?

dwi'm yn siwr - dwi wastad di licio meddwl mod i mewn control o'r gegin - ma na lun ohonna i yn 'helpu' Mam i neud cacennau bach tra'n sefyll ar gadair pan o'n i'n dair oed. dwi'n meddwl mai'r pryd cyntaf oedd caws ar dost efo beans

2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?

dim wir. dilyn fy nhrwyn fydda i fel arfer, ond twtsh bach o fwstard ydi fy nghynhwysyn hud mewn brechdan tuna a chaws cheddar aeddfed, wedi'i dostio :P

3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?

pasta efo corgimychiaid/corgimych(prawns), courgettes, tomatos a chilli

4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?

dries i neud cawl bresych a chenin efo dwr a stoc chydig fisoedd nol (o'n i'n trio bwyta'n iach ar y pryd). ych. dim blas

5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?

Llewelyn Richards a ddywedodd:3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?

Ysbinbysg y môr mewn saws coconut, leim a garlleg :winc:

...efo tatws sir Benfro a brocoli - neis iawn oedd o hefyd

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 5:52 pm
gan Manon
1. Pryd oedd y tro cyntaf i chi goginio pryd?
'Dwi'n reit domestig efo petha' fel 'na, so pan o'n i'n reit ifanc mashwr.

2. Oes gyda chi ryseit arbennig/ cyfrinachol? Beth?
Sleisiwch eggplant, tomatos, nionod, pupur coch a madarch a gosod nhw mewn layers mewn dysgl. Cymysgwch bot o saws tomato efo 'run faint o stoc, adiwch iogwrt neu gaws hufennog, a thollti'r saws dros y llysiau. Rhowch layer arall o eggplant ar y top ac wedyn chydig o gaws, a pobwch y cyfan am tua hanner awr. Gwirioneddol lysh 8)

3. Beth fyddech chi'n ei goginio er mwyn gwneud dylanwad da ar westai?
Cinio dydd sul... myfi yw'r frenhines am rostio!

4. Beth yw'r smonach mwyaf i chi greu yn y gegin?
'Bean and Noodle surprise'. Roedd 'na ffa, roedd 'na noodles. Nid oedd blas :?

5. Pwy yw'r cogydd gorau yn y byd?
Mae Dad yn gallu neud i salads flasu'n neis :D