1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
yn amlwg - scratchcards ne enill gemau poker yn erbyn fy ffrindiau di-glem
2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
do, rhoi darn o bren eithaf trwchus mewn blwch 'pay & display' yn ganol haf pan on i tua 13, wedyn ar ol ir twristiaid i gyd roi eu pres i mewn, mi fydda nin rhedeg at y peiriant efo 'stick lolipop' ag yn stwffior pres i gyd lawr ag yn ei wario fo yn y co-op ar betha gwirion, gafo ni tua £10!
3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
mae'n ngallu a'n ngwerth i drwy'r tô, ond oherwydd fy niogrwydd, dwi am fod yn 'modest' a deud £60,000 y flwyddyn
4. Ydych chi'n cynilo?
trio gymaint a fedrai, tua 50-60% on incwm yn mynd i safio, gan fod gen i ddim biliau na dim iw dalu ar hyn o bryd
5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
mwyaf gwerthfawr - guitar fender, er bo fi methu chwara bron ddim erbyn hyn, mae on edrych yn
yn fy llofft
mwyaf diwerth - gem cyfrifiadur, Port Royal, mae on shit