Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Postiogan Mwddrwg » Gwe 23 Meh 2006 11:34 am

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
canu'r delyn mewn priodas(au) £150 am ddwyawr

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
gwisgo blows coch, glas a melyn a codi crocbris ar gwsmeriaid y little chef, a cael fy nhalu

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
digon i gael ty, a fforddio o leia 4 gwyliau y flwyddyn

4. Ydych chi'n cynilo?
Ha! as if

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
y car, siwr o fod. a'r mwyaf diwerth - ffrog i 'ball' :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Postiogan nicdafis » Gwe 23 Meh 2006 11:43 am

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?

Pan wedodd Gari Pwyll, "ai, gwon 'te, ga'i gwerth £10 o tsips".

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?

Gweithio i gontractwr ar safleoedd MOD.

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?

Tipyn bach llai nag ydw ar hyn o bryd.

4. Ydych chi'n cynilo?

Ydw, yn ara deg, gyda'r Undeb Credyd.

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?

iPod.

Modrwy briodas.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mici » Gwe 23 Meh 2006 11:58 am

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
Ista ar gadair mewn capel am 10 awr i enill £115(Adeg etholiad)

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
Na fedraim meddwl ond fyddai yn barod i gyfrannu i rhywun sydd yn bob amser.

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
Wel yn ol ystadegau cyfartlaedd cyflog Cymru ydi £24,000 y flwyddyn a fuaswn fwy na bodlon efo hwn. Dydw i ddim yn gael be dwi werth ar hyn o bryd ond fedraim cwyno chwaith os di plant bach yn 'stitchio' peli am 5c y diwrnod neu wbath

4. Ydych chi'n cynilo?
Dim hanner digon ond ddim yn coelio mewn gor gwario i ddyled chwaith, os fedraim fforddio fo, dwim yn cael o. Arna i filoedd i'r ffadin 'Loan sharks' mwyaf y llywodraeth mewn benthyciad myfyriwr

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Gwerthfawr - Car mae'n rhaid, braidd yn styc hebddo fo
Lleiaf gwerthfawr - crys Rangers piws, oh the shame
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Re: Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 23 Meh 2006 12:34 pm

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
Torri fy mhen glin. Dwi methu gweithio, felly dw i'n cael alowans gan y llywodraeth am 'chydig.

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
Er mwyn codi arian? Na. Hunanol, de?

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
Iasgob un anodd. Dim lot, yn anffodus. £10,000 y flwyddyn?

4. Ydych chi'n cynilo?
Wrth imi fynd yn hen, ydw. Wel, dw i'n annog pawb arall i brynu drincs imi os mae hynny'n cyfri.

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Ar fy myw dw i'm wedi prynu dim o werth yn fy myw. Y peth mwyaf diwethaf yw efallai string o hot dogs ar gyfer ci gnoi. Sgen i'm ci.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan AFFync » Gwe 23 Meh 2006 1:11 pm

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
Pan oeddwn i'n coleg roeddwn i'n rhan o 'room audit'. Bob awr roedd rhaid i mi fynd o gwmpas un adeilad yn y coleg a marcio faint o bobol oedd yn pob ystafell. Roedd hi'n cymeryd 5 munud i neud ond ges i £10 bob awr o 8yb tan 9yh am wythnos.

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
Gwysgo mewn gwisg Cymraeg a rhoid taflenni allan i crochendy Porthmadog am £2 yr awr.


3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?

£40,000 y flwyddyn! Dwi'n neud llawer ormod o waith am ddim a mae ex fi am dechrau job sy'n talu £33,000 a gennai mwy o gallu na o (geiriau fo dim fi)

4. Ydych chi'n cynilo?
Byddaf pan gennai pres ar ol ar diwedd y mis

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Mwyaf gwerthfawr - car.
Diwerth - Dictaphone oedd heb microffon efo fo!!!
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan Ray Diota » Gwe 23 Meh 2006 2:13 pm

AFFync a ddywedodd:gennai mwy o gallu na o (geiriau fo dim fi)


fiver yn gweud bod 'da fe stiffy ar y pryd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Postiogan Manon » Gwe 23 Meh 2006 4:15 pm

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
Gweithio fel actores- Mae o'n piece of piss ac ma'r cyflog yn brill.
2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
O'n i'n gweini mewn tafarn lleol lle 'roedd y perchennog yn mynd yn stressed ac yn taflu ffyrc ana fi :crio:
3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
Wel, rydw i'n fam llawn amser, felly 'dwi'n meddwl fysa 15 grand y flwyddyn yn reit neis.
4. Ydych chi'n cynilo?
Yndw, 'dwi'n gybyddlyd ofnadwy.
5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Mwya gwerthfawr= folic acid
mwya diwerth= 'v' slicer o woolies. O'n i'n disgwyl gwyrthia' Doedd o methu hyd 'noed torri letys
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 23/6/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 23 Meh 2006 11:49 pm

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?
Gamblo ar y Grand National, mwy na thebyg. Nes i ddarllen un erthygl fer a dewis yr enw mwyaf diddorol oedd yn yr erthygl > £60 ish

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
Mae gamblo yn codi cywilydd ar lot o bobl ...

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
Fe fyddwn i'n ennill eitha tipyn yr awr, ond dwi ddim yn gweithio'n galed, felly fe fyddwn i'n eitha tlawd yn y diwedd.

4. Ydych chi'n cynilo?
Ydw. Ac yn delio drygs a gwerthu fy nghorff i gadw pethau i fynd.

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Fy iBook 12" ydy'r peth sydd werth y swm mwyaf o arian ond mae gen i sawl peth sydd yn meddwl mwy i fi, fel ambell i grys pêl droed neu CD neu DdVD neu lyfr. Mwyaf diwerth? Pob cylchgrawn dwi rioed wedi prynu (heblaw am Empire, Private Eye a The Word) achos dwi byth yn eu darllen.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 25 Meh 2006 7:47 am

1. Beth yw’r ffordd hawsaf erioed i chi ennill arian?

Gweithio i linell gymorth Ailgylchu dros Gymru. £7 yr awr yn eistedd yn disgwyl i ffôn i ganu. Weithiau, roeddwn i'n gwneud shiffts 12 awr o hyd. Heb yr un alwad. Digon o amser i ffaffio ar gaydar, ebay a maes-e, wrth gwrs.

2. Ydych chi wedi gwneud rhywbeth sy’n codi cywilydd er mwyn codi arian?
Na dim felny.

3. Pe bai chi’n gosod eich cyflog eich hun, yn ôl eich gallu a’ch gwerth, faint fyddech chi’n ennill?
£7.50/awr.


4. Ydych chi'n cynilo?
Odw odw.

5. Enwch y peth mwyaf gwerthfawr i chi brynu, a’r peth mwyaf diwerth?
Gwerthfawr - siaced ledr cochach na choch.
Diwerth - Camera digidol tsiep o Argos.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron