Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 1:22 pm
gan Dwlwen
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 1:50 pm
gan Ioan_Gwil
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Crys 'they think its all over it is now england 1 brasil 2' crys nofelti ar ol i brasil fwrw lloegr allan o gwpan y byd 2002

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
gwylio fidio o man iw yn curo cynghrair y pencampwyr '99

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
pobol y bbc neud panad i fi ar ol i fi rhoi her i ter

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
pan da chin meddwl fod ganddo chi syniad da am rhywbeth ond does na neb arall yn cytuno

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
peint

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 1:50 pm
gan Manon
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Mae fy modrwy briodas yn sbeshal iawn i mi. Modrwy Mam oedd o pan briododd hi Dad. Ar hyn o bryd, mae footless tights o Matalan yn gwneud i fi deimlo'n neis achos mae o'n dangos fy nhattoo 4 diwrnod oed 8)

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
bwyta :( Weithia' 'swn i wrth fy modd yn cael smoc.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
pan nes i dynnu fy mabi allan o'r car gynna, bath o patio 'nhefn a rhoi sws i mi 8)

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
criced ar y teli :drwg:

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Mae fy chwaer yn gret am godi calon, ond y bychan sy'n atgoiffa v pa mor lwcus ydw i.

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 2:57 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?

Fydda' i'n hoff o wisgo fy siwt dda.

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?

Gwylio DVD gêm Cymru v Ffrainc 2005. Trist mi wn, ond mae'n gweithio.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?

Fy ffrind Cai, wnaeth rhyw led-awgrymu fy mod i yn y golofn 'pobl mae'n hoffi' yn hytrach na 'pobl mae'n casau'.

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?

Meddwl am ddyledion.

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?

Mynd i Madame Fromage i brynu caws a gwin.

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 3:34 pm
gan Jeni Wine
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Fy nicar newydd pinc o Co-op Llambed :wps:

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
Mynd am dro i Ddinas Dinlle os di'n aea a gweiddi nerth esgyrn fy mhen yn y gwynt. Yn yr haf, mi af rownd y Lon Gul yn Llandwrog neu rownd Y Ddol. Rhyfeddu at natur wastad yn gwneud i mi deimlo'n dda unwaith eto.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
Mam yn cynnig dod i fy nol i o'r gwaith heno ma (dwi di troi fy ffer :( )

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
Unrhyw fath o ddrwgdeimlad rhwng unrhyw un. Llythyrau cas. Pobl yn gwrthod dweud 'diolch' wrth y tils yn Tesco. Petrol yn isel.

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Haul. Rhywun yn dod a sypreis i mi. Newyddion da. Sws. Mefus. Shampen.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 3:42 pm
gan Cacamwri
Fy nicar newydd pinc o Co-op Llambed

Waw, bydd rhaid i fi fynd am sgowt bach yn y Co-op heno ma ar ol gwaith... :rolio:
:winc:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 3:44 pm
gan Cymro13
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?

Crys du o Burtons - ma fe'n dda i guddio fy mol cwrw

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?

Gwylio Friends -always works

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?

Aelodau Anibynnol Blaenau Gwent - Ma Llafur yn colli yn rhoi yn gneud i fi deimlo'n dda iawn

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?

Cofio fy mod fod gneud rhywbeth pwysig iawn ond wedi anghofio

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?

Alcohol

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 4:11 pm
gan Dwlwen
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Ffrog goch cochach na choch.

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
Mynd am grwydr a phrynu rhywfath o fwyd sy'n wael i fi.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
Y boss. /smug.

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
Methu at rywbeth. Cael pang o hunan-ymwybod. Blinder. Siom.

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Sypreis. Fflatery. Paned dda a pain au chocolat. Cael cymwynas. Gwneud cymwynas. Cofio rhywbeth anisgwyl.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 4:12 pm
gan garynysmon
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Fy ngrys 'lwcus' :winc:

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
Panad.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
Rhwyn yn deud mod i'n hogyn clyfar a'n rhy dda i lle ydw i rwan!

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny? Spurs a/neu Bangor yn colli. Y ddau yn aml iawn.

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Spurs a/neu Bangor yn enill. Byth yn aml iawn.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 4:14 pm
gan Sleepflower
1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?

Fy nghrys Rygbi'r Eidal. Ffito'n neis, 'na gyd.

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?

Mynd am jog sy'n gweitho gorau, er fi'n rhy nacyrd gan amla.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?

Boi fi'n byw da. Wnaeth e fynd mas i brynu gwin i fi ar ol i fi weitho'n hwyr.

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?

Gyrru. Mae 'da fi road rage uffernnol. Mae pawb yn ofandw yn gyrru heblaw am fi. :drwg:

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?

Gweld hen fois yn eistedd ar fainc yn sgwrsio trw'r prynhawn. Hwnna, a gwylio Star Wars yn fy mhyjamas gyda Pizza a Coke, ond mae hwnna'n amlwg. 8)