1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Crysiau polo newydd o Howies. Mmm, ailgylchwyd...
2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
<strike>Lein bach o Garlo.</strike>
Mynd am dro yng Nghwm Hawen.
3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
Mae Philippa newydd gerdded mewn a dweud "bwyta mewn pum munud?"
Sbwci.
4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
Baneri Lloegr, ar hyn o bryd.
5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Bwyd time!