Pump am y Penwythnos - 30/6/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 30/6/06

Postiogan krustysnaks » Llun 03 Gor 2006 1:52 am

1. Oes gyda chi rhywbeth, e.e. dilledyn neu ddarn o emwaith, sy’n gwneud i chi deimlo’n dda pan fyddwch chi’n ei wisgo?
Dwi'n hoffi gwisgo dillad sy'n dangos pa mor denau ydw i.

2. Beth fyddwch chi’n gwneud er mwyn codi calon ar ôl bod yn isel?
Edrych ar y lleuad neu edrych ar y mor.

3. Pwy oedd y person diwethaf i ddweud, neu wneud, rhywbeth wnaeth i chi deimlo’n dda? Beth wnaethon’ nhw?
Bachgen yn dweud diolch ar ol i mi ei helpu i ddysgu i syrfio mewn gem o denis.

4. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn ddrwg, pa bynnag mor dda oedd eich diwrnod cyn hynny?
Rhywun yn siarad gyda mi fel tasen i'n fachgen ysgol (fe ddigwyddodd hyn ddoe. Twat)

5. Wyddoch chi am rywbeth sy’n troi eich hwyliau yn dda, pa bynnag mor ddrwg oedd eich diwrnod cyn hynny?
Cael diwrnod i ffwrdd y diwrnod wedyn (fe ddigwyddodd hyn heddiw. Nefolaidd)
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai