1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?
Tua 7 cân newydd gan Gwilym Morus yn Chapter neithiwr. O'n i'n hoffi'r cellos.
2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Rhyw gyri oren o'r Balti Wallah nos Sadwrn... er mwyn amsugno'r alcohol... ac am bo fi'n folgi.
3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Castell Ogwr.
4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Ma Hywel Emrys newydd adael y swyddfa...
5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
'Nes i ddysgu i werthfawrogu malwod wrth wylio specimen sionc iawn yn mynd rownd mewn cylch o tua 4 deilen, ar berth mewn gardd gwrw nithwr.