Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 07 Gor 2006 2:46 pm

1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?
Tua 7 cân newydd gan Gwilym Morus yn Chapter neithiwr. O'n i'n hoffi'r cellos.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Rhyw gyri oren o'r Balti Wallah nos Sadwrn... er mwyn amsugno'r alcohol... ac am bo fi'n folgi.

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Castell Ogwr.

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Ma Hywel Emrys newydd adael y swyddfa...

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
'Nes i ddysgu i werthfawrogu malwod wrth wylio specimen sionc iawn yn mynd rownd mewn cylch o tua 4 deilen, ar berth mewn gardd gwrw nithwr.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 07 Gor 2006 2:59 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Waw! Ond peryg mai wedi cael dy sugno mewn i gimic wyt ti...! Mi fysa llenwi potel blastig efo dwr, a'i gosod yn y sistern yn gneud yr un job :winc: Ond dim cymaint o hud a lledrith, yn anffodus! 8)


:? Finna'n meddwl mod i wedi cael rhywbeth gwyrthiol gan y dyn (a dweud y gwir o'n i'n dechra meddwl mai angel oedd o, ar neges yn dangos i bobl sut i fyw yn fwy eco-gyfeillgar!)

Beth bynnag dyma linc i'r crisialau hud.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan Selador » Gwe 07 Gor 2006 3:25 pm


1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?

Neshi lwytho fersiwn o Heroin gan Iggy Pop and the Stooges neithiwr. Ma'n electronic ac yn od a dwi'n ama mai nid Iggy Pop dio o gwbwl.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Tatw Glyn 'Rerw.

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Lle newydd? Ydy hyn yn bosib? Lle dwi rieod di bod o blaen diweddara ydi Manchester Acedemi i weld Gogol Bordello, oedd yn wych.

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Riw hogan tra'n padlo ar y traeth.

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
Tatws ydy'r llysieun sydd angan mwya o ddwr, a hefyd NID Marie Curie wnaeth ddarganfod Merciwri (er fod ei henw'n awgrymu yn wahanol, hwr).
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 07 Gor 2006 4:21 pm


1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?

Un o ganeuon Derwyddon Dr.Gonzo.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Mefus mewn balsamic ella? Heb fod yn arbrofi lot yn ddiweddar. Gesh i amball i sosej gwahanol lawr a byrgyr chwadan a bricyll yn y farchnad wicend dwetha. A caws gafr wedi ei rolio mewn hadau pwmpen nos Wenar. Mmm.

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Siop Medi yn Nolgella! (*blatant plug*!)

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Brawd Ray a'i fêts neithiwr yn Rummers.

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
Fod yna bysgodyn Coelcanth yn byw ym mor Indonesia yn ygosytal ag oddi ar arfordir Affrica. Hefyd, fod yna sinema o'r enw the Plaza yn arfer bod yng Nghaerdydd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan Manon » Gwe 07 Gor 2006 5:03 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:


[b]5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?

Fod yna bysgodyn Coelcanth yn byw ym mor Indonesia yn ygosytal ag oddi ar arfordir Affrica.


Go iawn? o'n i'n meddwl bod rhain wedi hen farw allan!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan nicdafis » Gwe 07 Gor 2006 6:27 pm

1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?

Rhywbeth oddi ar <a href="http://www.theeraser.net/Stage2UK/">The Eraser</a>, Thom Yorke.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?

Wnes i <i>stir-fry</i> noson o'r blaen, gyda porc sbeisog - sa i'n credu mod i wedi cael hynny o'r blaen. Neis iawn, 'fyd.

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?

Stopion ni yng Ngroescoch, ger Talgarreg y prynhawn 'ma, ond oedd y dafarn ar gau.

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?

26 o ddysgwyr ar ysgol haf Llambed. Y dysgwyr ola i mi eu dysgu!

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?

Paid blyffo'r pysgod, byddan nhw'n dy alw gyda pâr isel, er bod fflysh amlwg ar y bwrdd.

[/poker_bore]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan tafod_bach » Sad 08 Gor 2006 9:44 am

1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?
dwim yn siwr, ond dwi'n gwrando ar 'endless love' lionel richie a diana ross REIT NAWR.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
dwi di bod yn bwyta'n wael iawn am gyfnod estynedig o dri mis, so, ym, rhyw fath o gyri (a bhaji aubergine. wwwwmm)

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Norwy! oedd hi'n braf iawn.

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
nesi gwrdd â jen (ddaeth draw i'r ty i gael dêt dvd efo'n ffrind logan. neshim aros yn hir) a sam (ddaeth draw i'r ty i gael lifft i'r gig buju banton yn dunstable gath ei chanslo :drwg: .) ar nos iau.

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
peidiwch a bwyta eira melyn. yn enwedig ym mis gorffennaf. pwy a wyr beth fydd ynddo fe.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos - 7/7/06

Postiogan Sili » Sad 08 Gor 2006 2:48 pm

1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?
Can newydd Ramirez ar y r'hen charango.

2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Cous cous garlleg, baked beans oer a spam di ffrio. Rashiwns yn brin chi'n gweld...

3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Ynys Enlli :D

4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Poblogaeth Ynys Enlli.

5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?
Fy nghanlyniadau gwaith cwrs meddygaeth, gwaetha'r modd...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron