1. Beth yw’r can newydd diweddaraf i chi glywed?
"Tywydd" ar "Ding Dong" - y rhaglen blant ar S4C!
2. Beth yw’r pryd newydd diweddaraf i chi flasu?
Ym. Dwnim. Dwi ddim wedi cael pryd cyfan sydd wedi bod yn newydd i fi ers sbel fawr. Ond mi ges i ginio cig oen mewn saws rosmari neis iawn ym Mhenarth ddydd Mercher.
3. Beth yw’r lle newydd diweddaraf i chi fynd iddo?
Plymouth benwythnos diwethaf. 'Ron i wedi cael gwahoddiad i barti nôs priodas fy ffrind, a mi dreulish i'r penwythnos cyfan yn y dref, yn cerdded ar hyd yr arfordir, ymweld a'r acwêriym, a gneud yn siwr fod y tafarndai yn safonol
4. Pwy yw’r person newydd diweddaraf i chi gwrdd?
Rhywun sy'n rhwyfo efo Fo. Gethon ni swper yn Mama Amalfi yn y Bae cyn mynd i weld ffilm echnos, a roedd y boi oedd yn eistedd ar y bwrdd nesaf i ni yn cyd-rwyfo efo'r Dyn. Dim syniad o'i enw, sori! Tim neu Mike neu rhywbeth felly...
5. Beth yw’r peth newydd diweddaraf i chi ddysgu?[/quote]
Mae angen goriad clo
deadlock er mwyn dod allan o'r tŷ, yn ogystal â mynd i mewn...
Tydi o ddim yn
rocket science, ac mi fyswn i wedi gallu gweithio'n ffordd drwy'r ffaith fach honno fy hun. Ond honno yw'r
wers ddiwethaf i fi ei dysgu!