1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Dwn im wir. Ma prynu'r Mule bob wythnos yn wastraff arian, ond dwi'n dal i brynu fo.
2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
Sesiwn Fawr, ac yn arbennig dangos ffilmia yn Sesiwn Fawr bnawn Sadwrn!
3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Ara bach a bob yn dipyn ma sdicio bys i din gwybedyn. Cyngor esenshal i bawb faswn i'n deud.
4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Cyfres ffilmiau Moviedrome ar BBC2, cael 5c nol am ddychwelyd poteli Corona a Torri Gwynt wrth gwrs.
Dom da i chi!
5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?
Oni bai am bobol nyts yn y Dwyrain Canol sy'n trio'u gora glas i ladd eu gilydd - Big Brother - dwi'n siwr bo gennai betha gwell i wneud efo'n ha na gwylio fo. Ond dwi yn felly 'na ni.