1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Gormod i'w enwi, ond pob tro dwin talu am rhywbeth gydag cardyn mewn archfarchnad, ma'r geiria 'Un lucky dip i'r EuroMillions plis' o hyd yn slippio allan, a dwi rioed di ennill ceiniog gyda'r blydi petha.
2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
Sesiwn Fawr a Sdeddfod. WOOP WOOP!!
3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Pawb yn y byd 'tsiliwch', ma pawb mor flin.
4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Topper, i wneud un gig arall, Big Leaves i neud un gig arall, Mountain Dew, Ffilm Toy Story arall, yr heip am 'Yo-Yos' i ail gynnal, Y Beatles ayyb....
5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?
Swnin hoffi cael gwared o'r teiar sydd wedi'w lapio o gwmpas fy mol, ond diom am ddigwydd, fyddain unig hebddo