Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 14 Gor 2006 3:32 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Dwn im wir. Ma prynu'r Mule bob wythnos yn wastraff arian, ond dwi'n dal i brynu fo.

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
Sesiwn Fawr, ac yn arbennig dangos ffilmia yn Sesiwn Fawr bnawn Sadwrn!

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Ara bach a bob yn dipyn ma sdicio bys i din gwybedyn. Cyngor esenshal i bawb faswn i'n deud.

4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Cyfres ffilmiau Moviedrome ar BBC2, cael 5c nol am ddychwelyd poteli Corona a Torri Gwynt wrth gwrs.

Dom da i chi!

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?
Oni bai am bobol nyts yn y Dwyrain Canol sy'n trio'u gora glas i ladd eu gilydd - Big Brother - dwi'n siwr bo gennai betha gwell i wneud efo'n ha na gwylio fo. Ond dwi yn felly 'na ni.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan AFFync » Gwe 14 Gor 2006 3:46 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Golchi'r car . £5 a wnaeth deryn cachu ar y ffenestr pan oeddwn yn yr archfarchnad. :drwg:


2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
Mynd allan ar y lysh nos foru!


3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Triwch safio bach o'ch pres i'r dyfodol.


4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Ffrindiau colledig

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?

Tlodi, rhyfel, Bush a Blair.
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 14 Gor 2006 3:49 pm

1. prynu office 2003 a norton anti-virus yn pc world. rip-off.
2. gorffan gneud y ty i fyny.
3. deud wrth pobl big brother i gael bach o 'perspective' weithia. ma 'na ryfeloedd yn mynd ymlaen yn y byd 'ma. :x
4. teulu'r mans.
5. george bush.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Sleepflower » Gwe 14 Gor 2006 3:59 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?

Neithwr. Cwrw.

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?

Carnifal Rhaeadr Gwy. Cwrw.

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?

Os ydych chi'n cymryd rhan mewn chwaraeon, dalwch ati.

4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)

Datblygu.

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?

Rhyfel. Sori am ateb mor gawslyd, ond fi'n angri iyng man y prynhawn yma. Mwy na'r arfer.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 14 Gor 2006 4:35 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Fi wastod yn brattu arian nawr ac yn y man, ar cwrw most probs. Y peth gwaetha wythnos hon oedd anghofio i canslo cap a gown fi ar gyfer graddio. Fi'n ail-ishte dwy arholiad mis nesa achos o ni ar y ffin rhwng dwy dosbarth, a byddau'n graddio yn Hydref neu Tachwedd nawr fi'n cretu. Anghofies i'n llwyr amdano'r dillad, ac yn lwcus i mi gofies i pnawn dydd llun, y dwornod cyn y seremoni. Ware teg i'r cwmni, halws nhw ffurflen i fi am newid y order am y tro nesa.

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
Erm, ishte yn gardd fy ffrind da cwpl o'r bois nos yfori a gal cwpl o cans. Iesgyn fi'n haws i blesi :wps:

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Paid a sylwi rhy gynnar fod chi'n fastad fach glyfar.

4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Y hen Tango Afal. Fe ges i can wythnos dwetha am y tro cynta ers sbel, a ma fe di newyd yn llwyr. Ych a fi.

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?
Y llosg haul ar fy mhraich chwith...o ni'n paento'r ffens yr ardd trwy'r dydd a ma un ochor o fi'n coch a'r llall yn wyn. :drwg:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan huwcyn1982 » Sad 15 Gor 2006 7:06 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?

Yn ddyddiol fel arfer, ar ddillad/bwyd/golchi car

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?

diwrnod off ar ddydd Llun gorffennaf 24, diwrnod cynta off ar ôl gweithio am 16 diwrnod yn olynnol.... (er bo'r gwaith ddim rhy galed gan mod i'n llenwi hwn mewn am y tro cynta..)

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?

Paid a thrystio neb sy'n gwisgo crys du o dan siaced siwt.

4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)

the A-Team (os da nhw dal gyd yn fyw.)

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?[/quote]

only fools on horses, love island. gormod o bethau i'n ddistractio fi rhag big brother!
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan nicdafis » Sad 15 Gor 2006 9:51 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?

Pecyn o Benson & Hedges, Ship Inn, Llangrannog, nos Fercher 12fed Gorffennaf 2006.

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?

Mynd am beintyn gyda hen ffrind yn Llangollen heno, ymweld â thafanau dw i heb bod ynddyn nhw ers 20 mlynedd.

Cerdded Clawdd Offa (hanner y gogledd) wedyn.

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?

Paid ag hedfan (i unrhywun).


4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)

Van der Graaf Generator, eto.


5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?

Crefydd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan Iesu Nicky Grist » Sad 15 Gor 2006 11:45 am

nicdafis a ddywedodd:5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?

Crefydd.


Ffycyr :drwg:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Re: Pump am y Penwythnos 14.7.2006

Postiogan Manon » Sad 15 Gor 2006 2:31 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi wastraffu arian, ac ar beth oedd hynny?
Nes i brynu gwin i'r rhieni gogyfer te parti fy mab yn 1 oed ddoe... Dim ond fi a'r gwr nath gal glasiad :wps:

2. Beth yw'r prif beth chi'n edrych mlaen ato ar hyn o bryd?
'Steddfod! A trip yr Ysgol Feithrin i Pili Palas wsos nesa'.

3. Beth yw'r un gair o gyngor chi moyn rhoi i rywun, boed yn enwog ai peidio?
Mwynhewch y pethau bychain.

4. Beth yw'r hoffech chi ei weld yn dychwelyd? (ffilm, band, tegan, diod, math arbennig o fand elastig... unrhyw beth)
Cymdogion yn siarad efo'i gilydd. A boreau coffi.

5. Beth yw'r un peth presennol y byddech chi'n cael gwared arno?
Rhyfel.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron