1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm? Dwi'm yn gwybod pwy ydi fy alter ego i ond dwi'n gwybod pwy sw ni'n hoffi bod. Sw ni'n licio bod yn Sleeping Beauty, cael bod yn dlos a mynd i gysgu am 100 o flynyddoedd. Sa bod yn dlos yn neis a sa cysgu am 100 o flynyddoedd yn neisiach, sw ni'n deffro mewn 100 o flynyddoedd a sa problemau fi i gyd wedi mynd i abergofiant. Yn anffodus dydi hynny byth am ddigwydd . Ond o edrych ar y bright side sa fo'n eithaf shit deffro a ffeindio bod pawb ti'n garu wedi marw.
2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd? Rhywle efo traeth i gael gorwedd yn yr haul drwy'r dydd a nofio yn y mor. Rhywle lle mae yna dropouts cymdeithas eraill sydd yn gwmni braf ac yn licio cael amser da.
3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)? Gitar sw ni'n byscio a trafeilio o le i le pam dwi'n sgint ac angen denig.
4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau? Bod yng ngharafan fy nain a fy nhaid yn Nimbych y Pysgod a clywed swn y glaw yn disgyn ar y to a teimlo'n hollol saff. Does yna ddim un teimlad yn y byd fel bod tu mewn i garafan pam mae hi'n glawio.
5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
mynd ar daith
am amser maith