Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 21 Gor 2006 7:28 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm? Dwi'm yn gwybod pwy ydi fy alter ego i ond dwi'n gwybod pwy sw ni'n hoffi bod. Sw ni'n licio bod yn Sleeping Beauty, cael bod yn dlos a mynd i gysgu am 100 o flynyddoedd. Sa bod yn dlos yn neis a sa cysgu am 100 o flynyddoedd yn neisiach, sw ni'n deffro mewn 100 o flynyddoedd a sa problemau fi i gyd wedi mynd i abergofiant. Yn anffodus dydi hynny byth am ddigwydd :( . Ond o edrych ar y bright side sa fo'n eithaf shit deffro a ffeindio bod pawb ti'n garu wedi marw.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd? Rhywle efo traeth i gael gorwedd yn yr haul drwy'r dydd a nofio yn y mor. Rhywle lle mae yna dropouts cymdeithas eraill sydd yn gwmni braf ac yn licio cael amser da.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)? Gitar sw ni'n byscio a trafeilio o le i le pam dwi'n sgint ac angen denig.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau? Bod yng ngharafan fy nain a fy nhaid yn Nimbych y Pysgod a clywed swn y glaw yn disgyn ar y to a teimlo'n hollol saff. Does yna ddim un teimlad yn y byd fel bod tu mewn i garafan pam mae hi'n glawio.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
mynd ar daith
am amser maith
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 21 Gor 2006 7:30 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Jan yn The Edukators.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Compton. Fo shizzle.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Piano yn sicr. Mi dries chwarae piano pan oeddwn yn ifanc ond ni weithiodd allan. Buaswn yn hoffi chwarae stwff Gershwin.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Cofio mynd i Ffrainc ar Britanny Ferries. Cofio eistedd yn y cefn ac edrych allan trwy'r ffenest y car wrth i ni rhowlio mewn i'r cwch ac cael fy nharo gan hogle diesel/olew

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Eistedd wrth fy nghyfrifiadur yn yfed te.
Tra'n gwrando ar Dr.Dre
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan bartiddu » Gwe 21 Gor 2006 10:06 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Terrence Hill!

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Ceffyl + tent + reifl + llyfr goroesi yr S.A.S + masheti da + cot Barbour + Wild Wales gan George Borrow + pib a bacco + ucheldir Cambria.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

BANJO!

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Cyrhaedd maes carafannau yn y gogledd rhywle gyda mam a dad a dim carafan i'w llogi a felly dyma'r perchennog yn rhoi ei garafan personnol ef i ni, oedd yn llawn rhyfeddode fel llond cwpwrdd o gemau scrabble a buckaroo ag ati a gweliau bwnc..cyffrous i gwrtyn 6 mlwydd oed! :D


5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Bara menyn bara jam
Llawer gwell na cig a ham. (H.)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan huwcyn1982 » Sad 22 Gor 2006 10:05 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Wel ges i offens mawr ganol wythnos wrth i un o'm ffrindie gorau dweud bod da fi personoliaeth debyg i Ross oddi ar Friends. :ofn: gweld fy hun mwy fel brad pitt, i weud y gwir.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Senedd, Bae Caerdydd

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Bas dwbl.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Norwy yn y gaeaf pan o'n i'n llai na 5 (ddim yn siwr pa oedran... ond cyn ysgol gynradd)

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Wedyn, falle.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan krustysnaks » Sad 22 Gor 2006 9:59 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Dwi'n teimlo fel un o'r cymeriadau yn Wet Hot American Summer ar hyn o bryd.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Ochr canal yn Slough neu rywle.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Y ffliwt neu'r obo, mwy na thebyg.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Mynd i Fuerteventura yn fachgen wyth mlwydd oed.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Dyma gwpled gyflym iawn
gan mai dyma ddiwedd fy mhrynhawn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan nicdafis » Sul 23 Gor 2006 3:55 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Chewbacca.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Brithdir Mawr, Sir Benfro.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Yr obo.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Delwedd

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Fy noson ola o fod yn rhydd,
Am naw y fory byddaf yn fy swydd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Chwadan » Sul 23 Gor 2006 4:36 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Rwdlan. Neu Sal Paradise.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Bermo, lle mae dropouts pob cymdeithas yng ngorllewin Lloegr yn ymgynull.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Dijyridw.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Eisteddfod Abergwaun 1986. Ond ron i'n llai na dyflwydd oed felly dwi'm yn siwr os dwi'n ei gofio fo go iawn.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Achosa pi-em-ti a hangofyr
Lawer iawn o bofyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Llewelyn Richards » Llun 24 Gor 2006 9:13 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Miles o Sideways (meddai Benni). Be mae o'n wybod?

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Tref farchnad dawel yng nghanol y wlad efo off-licence dda.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Trwmped. I mi gael chwarae 'My Funny Valentine' fel Miles a bod mewn band 70s funk.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Bod yn sal mewn Maxi coch efo seddi lledr poeth.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Ychydig o'r hen wylo yn y glaw,
Ychydig lwch yn Llanfihangel draw.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai