Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 21 Gor 2006 9:35 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Gor 2006 9:42 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Samwise Gamgee (nis cytunaf, ond dyna syniad bawb arall)

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

I weithio at S4C

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Harmonica

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Caerlwytgoed mewn carafan a gweld miloedd o ser yn y nos.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Gwelais gath a chi'n cael ffwc;
O! Na chawn i'r ffasiwn lwc

:?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan joni » Gwe 21 Gor 2006 9:48 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Kaizer Soze

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Bangor. Ma loads o nhw lan fyna.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Piano.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Chware crazy golf yn erbyn y braw yn Jersey. I'r dwrnod yma, dwi dal yn mynnu taw fi ennillodd.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Dim dyma y ffordd i'n trin,
Meddylia am gwpled dy hun.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Dwlwen » Gwe 21 Gor 2006 10:15 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Anne of Green-Gables :? ...neu Holly Golightly, yn fy mreuddwydion.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
I'ng ngwely.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Wy'n chwarae'r piano'n barod, ond hoffen i chwarae fe'n well. Plîs?

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
'Coctêls' (di-alcohol) y Bears Club mewn gwestai Trusthouse Forte. Baby's Bubbly oedd fy ffefryn - sudd oren a lemonêd, gyda ymbarel a gwelltyn.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Trymfyd, chwithdod, ing, a phruddglwyf
Casgliad records y Gwahanglwyf...


Ti ofnodd :winc:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 21 Gor 2006 10:19 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Charles Foster Kane (Citizen Kane)

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Ynys y Ddyrchafael.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Gitâr fâs

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Butlins Ynys y Barri. Cychwyn o Lundain roedden n, a chollais fy mwced a rhaw o dan injan 125 anferth yn ngorsaf Paddington. Aeth fy nhad hynod ddewr (neu hynod ffôl) o dan yr injan i'w nôl nhw.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Gwir na allaf, dros fy nghrogi,
Ddysgu sut i gynganeddu.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Sleepflower » Gwe 21 Gor 2006 10:29 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Fagan o Oliver Twist

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

I ymuno gyda Richey, loike.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Bass. Fi'n gallu chware fe, ond sen i'n hoffi chware fe'n dda.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Yn yr Alban gyda'n rhieni.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Ma Sleepy bach yn tynnu'r leidis
Trwy gynnig iddynt sbec o'i seidis
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan HBK25 » Gwe 21 Gor 2006 10:32 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Alan "Cashback!" Partridge - neu Superman, wrth gwrs. :D :crechwen:

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Y gogarth yn Llandudno. 'Swn i'n edrych am ffossils a siarad hefo'r geifr a'r defaid. Good times


3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Y gitar.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Chwarae hefo'r hogan drws nesaf i dy Nain Llandudno. Joanne oedd ei henw. Ahh, :D happy days

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Na, ti'm yn haeddu un! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 21 Gor 2006 11:15 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Dyfais i proto-mwstash fel teyrnged i Ignatius J Reilly, ond er ei ddoniolwch, mae'n rhy atgas wir i fod yn alter-ego. (Ella taw evil alter-ego Dogfael ydi o? :) )

Does dim ond un i fi rili - Gene Wilder.

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Ar grwydr yn nyfnderoedd De America, neu falla rhywle ar lethrau'r Rhobell...

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

Trwmped (ond fasa Fender Rhodes yn ail agos)

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

Mynd i Efrog mewn carafan efo teulu o'r Bala. Ogla Jorvik. Chwara pwl a gamblers 2c drwy'r wythnos yn y gwersyll. Cael allergy i hufen ia ar y mwnt ar ochr castall Efrog.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Dim Sesiwn Fawr i Glyn eleni,
'Chos fod o'n sdyc tu fewn i'r teli!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos 21.7.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 21 Gor 2006 11:37 am

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Cool Ethan o Slackers. Jason Schwartzman yn arwr.
Neu Jack Kerouac, achos fi' hanner ffordd trw Big Sur ar y mo. Brenin y Beatnics. :winc:

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Draw i Mexico i bod yn Luchador neu Mariachi. Neu Mariachi gyda masg Luchador. Hmmm.

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Y synth. Neu'r gitar flamenco er mwyn yr uchod.

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Siarad da ddwy crwtyn Almaeneg yn Minorca yn Gymraeg a nhw'n ateb yn Almaeneg trwy'r nos. O ni'n cytuno'n neis!
Neu rhedeg fel y meil tuag at y mor pan o ni'n fach fach heb sylwi bod y traeth ar fath o silff, cwmpes i mewn i'r mor dros fy mhen. Jiawch ges i sioc! :ofn:
O ni pyllu myn yn agos i'r dwr am weddill yr wythnos meddod fy mam.

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
Does dim angen i fi d'huno am saith,
Mae pethe da am bod yn di-waith
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Cymro13 » Gwe 21 Gor 2006 12:05 pm

1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?

Homer Simpson

2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?

Mexico

3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?

dryms

4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?

rhoi bath i fy tedi -odd mam yn flin :lol:

5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)

Ar Faes E roeddwn i yn syrffio
Yn ystod fy amser cinio

ok bach yn shit ond methu meddwl am ddim byd gwell
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron