gan Daffyd » Gwe 21 Gor 2006 2:41 pm
1. Pwy yw eich alter ego llenyddol/ffilm?
Cwestiwn anodd. O ni wastad isho bod yn Bond pan yn llai ac ychydig yn fwy ffôl. Ond erbyn hyn, fysw ni yn dweud Ron Burgundy (dewis amlwg, ond I don't give two tatts)
2. Petai chi'n penderfynu bod yn dropout o gymdeithas, ble fyddech chi'n mynd?
Ynys yn rwla, pell i ffwrdd. I ffwrdd o'r DU, USA, Ffrainc, Sbaen a'r gweldydd yma i gyd. Bosib i Crete yn Groeg.
3. Beth yw'r un offeryn yr hoffech chi ei chwarae (os nad y'ch chi'n ei chwarae'n barod)?
Dwnim. Os fysw ni rili isho chwara fo, fysw ni probably yn chwara fo erbyn hyn (yn shit iawn). Dwisho gallu chwara gitar yn well, ond jest er mwyn gallu fwy nac er mwyn perfformio.
4. Beth yw eich atgof cyntaf o fod ar wyliau?
Aros yn yr Almaen, a methu gweld dim ond awyr allan o ffenast car. Geshi nightmare yno cos odd na pili palas ar du allan y ty a geshi nightmare fod nhw yn attackio fi. Hynod ddychrynllyd. Ffecing Germans.
5. Rhowch gwpled i ni (rhaid iddo odli, yr ôl-fodernwyr yn eich plith)
O mor hoff o Criddlington,
Even though he weighs a tonne.
[Gai ymddiheuro yn fawr i Criddle, ond y gair cynta nath ddod i'm mhen i odd tonne. Dim byd personnol. Honest.]
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....