1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth? Cymdeithas Yr Iaith
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…) Aelod yn 13 oed, gwneud llynia tafod y ddraig ar bob llyfr ysgol ac ar wal y toilets. Darllen maniffesto Deddf Iaith a Deddf Eiddo am oriau allan o ddiddordeb
. Mynd mewn i ddadleuon am oriau efo pawb dan haul am yr angen am hawliau i'r Gymraeg a pa mor effeithiol ydi gweithredoedd di-drais. Mynd i coleg a cael fy arestio yn fy mhrotest cyntaf am "breach of the peace". Cael fy arestio un waith arall am "breach of the peace" a tair gwaith am "criminal damage." Gadalel i'r heddlu lusgo fi a cael fy llusgo allan o'r cynulliad gan security. Troi fynny i bron bob protest. Mynd ar senedd am flwyddyn a dewis eistedd mewn cyfarfod trwy un dydd Sadwrn bob mis.
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*? Dwn im, efallai eistedd mewn cell yn poeni dim, yn teimlo'n hollol falch achos bod fi'n meddwl bod fi 'di gwneud rhywbeth i fod yn falch am.
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?) Cwestiwn anodd, yn hollol angerddol dros y Gymraeg a teimlo fel sgrechian bod ni ddim yn ddinasyddion eilradd yn ein gwlad ein hunain, bod ni'n bobl, bod gyna ni a' n iaith yr hawl i fodoli. Ond dwn im, dwi yn bendant ddim yn dyfaru gweithredu dros Gymdeithas Yr Iaith ond dwi'm yn gwybodos nai neud o eto. Profiadau wedi newid fi dwi'n fwy euddfed, yn gallach ond yn anffodus yn fwy hunanol, achos i ryw raddfa ti ar ben dy hun yn yn byd a ti'n gorfod cymeryd gofal o dy hun, gwers anodd i ddysgu ond dwi wedi ei ddysgu. Dwi ddim eisiau criminal record, dwi ddim yn licio bod mewn cell a dwi ddim yn licio'r teimlad o beidio gallu gadael pam dwi eisiau. Dwi'n licio'r teimlad o fod yn un ymysg pobl sydd eisiau achub yr iaith ond eto realiti y sefyllfa ydi na fysa y rhanfwyaf o'r bobl sydd yn dy longyfarch am weithredu yna i chdi pam mae pethau yn mynd yn anghywir, pam mae'r cachu yn hitio'r ffan go iawn. Ti'n cael dy barchu am be ti'n neud ddim am y person wyt ti, dydi hynny ddim digon da i fi yn bersonol. Yr unig bobl dwi eisia yn fy mywyd ydi pobl sydd yn fy ngharu go iawn. Sgyna fi ddim mynadd efo'r pretension, mae o'n gwneud o'n anodd i fi wybod pwy ydi fy ffrinidiau.Dim bod fi'n dweud bod fi wedi gweithredu i wneud argrafff a'r bobl raill ond mae o'n hawdd cale dy ddal yn yr emosiwn.
Hefyd dwi'n teimlo fel bod fi di cael llond bol ar wleidyddiaeth a'r iaith am rwan, mae o'n faich a dwi 'di cael digon, dwi am gael brec yng Nghaerdydd. Mae yna lwyth o resymau pam bod fy ‘ffanatigiaeth’ wedi dod i ben am rwan, ond dwi 'di mwydro digon. Dwin dechrau cael verbal daiaria a dwiam sdopio.
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Sori dwi ddim yn deall y cwestiwn
.