1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?Man Utd, wel, Mark Hughes.
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? Nes i brynu cylchgronne a phosteri di-ri a hyd yn oed ffoto o Sparky mewn ffram. A'i ffacin lyfr e - sy'n shit read, gyda llaw. Brynes i ddou fideo 'fyd - un yn ardderchog, o'dd yn llawn goliau, tra bo'r llall yn fwy o gyfweliad (o'dd yn son llawer gormod am ei broblemau yfed) ac yn ddwys i blentyn o'dd ishe treulio'i amser yn gwylio'i arwr yn sgorio gol ar ol gol, ac nid yn ceisio deall bywyd pel-droediwr oedd wedi fflyrtio gyda bod yn alcoholic. Ond cafodd e argraff fawr arna'i, sdim dowt.
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Ciwio am 4 awr yn Leeks, Cross Hands er mwyn cael llofnod "duw" just i adael cyn bod e'n cyrraedd er mwyn i Mother a Father fedru mynd i'r cwrdd prynhawn.
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? Selog iawn. Pan adawodd e Man Utd, nes i golli diddordeb yn y tim, yn rannol oherwydd y teimlad o warth ond yn fwy na dim r'odd cerddoriaeth a chyffuriau wedi cymryd fy mryd erbyn bryd 'ny. Mind you, bydde Brian McClair byth wedi medru bod yn eilun. O'dd e'n fucking shit. Fucking shit.
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Cyn bo'r boi 'di tynnu Savage i Blackburn, ma bownd o fod soft touch 'da fe i knob-heads, felly ma'n siwr fydde fe digon neis i fi. A ma'n siwr bydde fe'n deall mai plentyn wedi gwirioni ar ei ddoniau (tra'n cael ei ddylanwadu'n ormodol gan boster o'dd 'mond yn dweud "THUNDER THIGHS") o'dd wrth wraidd y "ffanatigiaeth", a bo fi'm yn bwriadu dilyn e rownd yn car a tynnu llunie ohono fe'n siopa neu nofio. Wel, dim ar ol yr ail restraining order.