Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 28 Gor 2006 10:15 am

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?


*hawlfraint: cysgeir
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 28 Gor 2006 11:14 am

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?Man Utd, wel, Mark Hughes.
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? Nes i brynu cylchgronne a phosteri di-ri a hyd yn oed ffoto o Sparky mewn ffram. A'i ffacin lyfr e - sy'n shit read, gyda llaw. Brynes i ddou fideo 'fyd - un yn ardderchog, o'dd yn llawn goliau, tra bo'r llall yn fwy o gyfweliad (o'dd yn son llawer gormod am ei broblemau yfed) ac yn ddwys i blentyn o'dd ishe treulio'i amser yn gwylio'i arwr yn sgorio gol ar ol gol, ac nid yn ceisio deall bywyd pel-droediwr oedd wedi fflyrtio gyda bod yn alcoholic. Ond cafodd e argraff fawr arna'i, sdim dowt.
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Ciwio am 4 awr yn Leeks, Cross Hands er mwyn cael llofnod "duw" just i adael cyn bod e'n cyrraedd er mwyn i Mother a Father fedru mynd i'r cwrdd prynhawn.
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? Selog iawn. Pan adawodd e Man Utd, nes i golli diddordeb yn y tim, yn rannol oherwydd y teimlad o warth ond yn fwy na dim r'odd cerddoriaeth a chyffuriau wedi cymryd fy mryd erbyn bryd 'ny. Mind you, bydde Brian McClair byth wedi medru bod yn eilun. O'dd e'n fucking shit. Fucking shit.
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Cyn bo'r boi 'di tynnu Savage i Blackburn, ma bownd o fod soft touch 'da fe i knob-heads, felly ma'n siwr fydde fe digon neis i fi. A ma'n siwr bydde fe'n deall mai plentyn wedi gwirioni ar ei ddoniau (tra'n cael ei ddylanwadu'n ormodol gan boster o'dd 'mond yn dweud "THUNDER THIGHS") o'dd wrth wraidd y "ffanatigiaeth", a bo fi'm yn bwriadu dilyn e rownd yn car a tynnu llunie ohono fe'n siopa neu nofio. Wel, dim ar ol yr ail restraining order. :wps:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Manon » Gwe 28 Gor 2006 11:33 am

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Tiffany, Mel & Kim, Bryn Fon, Rik Mayall, Kylie a Jason, 'Fame'.
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Anfon llythyra'! ma' gin i fag llawn signed photos yn ty rwla...
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Torri fy nghalon pan gath Bryn Fon ei arestio efo'r busnas Meibion Glyndwr 'na... o'n i 'mond tua saith ac o'n i'n beichio crio wrth wylio'r newyddion achos bod y lyf of mai laiff mewn cell :wps:
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Ma' gin i dal sofft spot am Bryn Fon, ac yn teimlo'n reit anghyfforddus pan ma' pobol yn slagio fo off.
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
'Sa fo wrth 'i fodd ma' siwr. 'dwi 'di ca'l fy nghyflwyno iddo fo unwaith, Tua dwy flynedd yn ol. Nath o ddeud 'Helo', nesh i ddeud 'Hahahahaia, ia, god ma'n boeth, iawn wyt?' :wps:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan PwdinBlew » Gwe 28 Gor 2006 11:51 am

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?Do, Queen. Ers on i tua 9 oed
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)Gwrando ar tap greatest hits 1 drosodd a drosodd a drosodd a drosodd
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?Project cerdd blwyddyn 9 am wn i. Prynu dybl CD o live at Wembley 86
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?) Dwi heb wrando ar Queen ers eijys wan bron i ddwy flynadd ers i mi roi unrhyw CD ymlaen. Dwi dal yn ffan ddo. Nes i byth bwdu efo nhw
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Dim llawer o farn gan Freddie erbyn hyn. Bryan May a Roger Taylor yn caru eu hunain so dwim yn meddwl fysa nhw yn meindio. John Deacon yn deud ffyc ol as usual. Rhywun erioed wedi clywed on siarad? Thought so.
That rabbit's got a vicious streak. It's a killer!


Sbynci
Rhithffurf defnyddiwr
PwdinBlew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 210
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 4:41 pm
Lleoliad: Yn trigo yng nghastell y tylwyth teg

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Cymro13 » Gwe 28 Gor 2006 11:56 am

Dim llawer o farn gan Freddie erbyn hyn. Bryan May a Roger Taylor yn caru eu hunain so dwim yn meddwl fysa nhw yn meindio. John Deacon yn deud ffyc ol as usual. Rhywun erioed wedi clywed on siarad? Thought so.


Do unwaith mewn cyfweliad ar ol i Freddy farw ond mae e wedi gadael Queen nawr. Ma pobl yn anghofio taw fe waneth ysgrifennu rhai o biggest hits Queen fel, Your My Best Friend, I Want to Break Free ac Another one Bites the Dust
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Sili » Gwe 28 Gor 2006 12:01 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Wedi bod drwy nifer o 'phases' o fod yn hollol obsessed efo gwahanol betha. Queen, Nigel Mansell ( :wps: ), hen fytholeg Eifftaidd etc etc...

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Oni ar y 'Queen mailing list' a nesi yrru nifer o lythyrrau.

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Gafodd mistar Mansell lythyr gan eneth pedair oed yn gofyn idda fo ddod i'w pumed phenblwydd. Yn anffodus, roedd mistar Mansell yn rasio yn Japan yr wythnos honno felly rhaid oedd troi'r cynnig i lawr. Ond mi gesi lythyr yn ol ganddo fo yn esbonio pam nad oedd o'n medru dod a llun ohona fo efo'i lofnod. Ath hwnnw yn syth mewn ffram a'i gadw wrth fy ngwely am flynyddoedd. Wypsidesi. A mi nesi wario cannoedd ar gael antiques a ballu wedi eu postio i mi o'r Aifft. Ma gennai rei ornaments allan o hen feddrodau nath gostio cryn dipyn a minna ddim rili'n ddigon hen i ddallt sut i drin arian.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Oni mewn cariad llwyr efo Freddy Mercury, a dwi'n cofio beichio crio pan nesi ffeindio allan fod o'n hoyw pan oni tua chwech (doeth y ffaith fod o wedi marw ddim i weld yn gymaint o rwystr amlwg arnai adeg hynny...). Oni'n reit ypset pan nath Nigel symud fyd a'r cyfeiriad odd gennai bellach yn iwsles.

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Wel dwi erioed wedi cyfarfod neb arall oedd yn dwli ar Nigel Mansell, lly mashwr sa fo'n gweld hi'n beth go od. Ond ar y llaw arall, dim ond rhywun efo ego enfawr sa'n gallu tyfu mwstash mor swmpus, felly falla sa fo wrth ei fodd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Sleepflower » Gwe 28 Gor 2006 12:03 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?

Y band, Reef

2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)

Mynd i gigs nhw tua 5 awr cyn cychwyn, er mwyn ceisio cael sgwrs gyda nhw.

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?

Dilyn y drymiwr o gwmpas Stadiwn Morfa, neu e-bostio'r rhelowr yn ddi-baid.

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)

Mae Place Your Hands yn gan ofnadwy, felly wnai byth gwrando na dawnsio iddo fe. Ond ma popeth arall yn aur.


5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’


Fi'n credu oedden nhw'n meddwl oedden i'n wierd ar y cychwyn. Ond erbyn i mi gwrdd a nhw yn Ddawns Fai yn Coleg, oedden i'n fwy call, a wnes i bihafio'n hun. Fi'n siwr bydde nhw'n falch o unrhyw ffans sydd 'da nhw ar ol erbyn hyn ta beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 28 Gor 2006 12:03 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Sawl band neu artist. Y Manics, Jeff Buckley. Mae wastad angen un band neu artist i fi fod yn obsesd amdano, fel arfer gyda rhyw elfen drasig yn perthyn iddyn nhw. Elliott Smith sy'n ei chael hi ar hyn o bryd.
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)
Prynu pob blydi albwm gan y band/artist dan sylw. Er enghraifft, mae gyda fi hwn sydd, wel, bach yn shit.
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
Dilyn Nicky Wire lawr stryd fawr Casnewydd, a digwydd bod oedd llyfr am y Manics gyda fi yn fy mag. Ges i ddigon o blwc i ofyn iddo fe am lofnod, a dyma fe'n gweud "oh, this, yeah they nicked loads of photos without getting permission. Bastards." Fe'm dadrithiwyd ryw fymryn.
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)
Ddim mor unllygeidiog â hynna. Fel wedes i, mae'r peth 'Songs to No One' 'na'n crap, a sai'n gwrando ar y Manics rhyw lawer rhagor. Ond dyw Elliott heb wneud un cam gwag (a chaiff e ddim cyfle rhagor... owff!)
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Digon di-nod oedd ymateb Mr Wire a Mr Bradfield pan siarades i 'da fe yn tai bach Clwb. Bydde'r ddau arall yn ddigon cwrtais, siwr o fod.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cymro13 » Gwe 28 Gor 2006 12:09 pm

1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?

Lot o bethe - Jarman, Manics, Queen, Hafoc, Ffalabalam


2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*? (e.e. oeddech chi’n aelod o glwb Hafoc, neu’n tynnu darluniau Jeifin Jenkins, falle…)

Clwb Hafoc ac yn danfon llun bob Penblwydd

3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?

Nes i brynnu LP Hen Wlad fy Nhadau am £30 yn y farchnad yng Nghaerdydd - Mint condition

4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun? (Wnaethoch chi gefnu ar Jeifin pan ddaeth y brodyr Glyn ar y sin?)

Dim really bothered - on i'n mynd drwy phases o wrando ar wahanol gerddoriaeth cofio bod yn big ffan o Stereophonics ar y ddau albym gyntaf ond bron byth yn gwrando arnyn nhw nawr

5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?

Cofio siarad a Tich unwaith a fe'n dweud - Your a bit too young to remember us (am Jarman a'r Cynghaneddwyr) achos on i'n siarad da fe am hen recordiau Jarman
A jyst i nodi ma Tich wedi chware gitar fi 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Cymro13 » Gwe 28 Gor 2006 12:11 pm

Sleepflower a ddywedodd:Fi'n credu oedden nhw'n meddwl oedden i'n wierd ar y cychwyn. Ond erbyn i mi gwrdd a nhw yn Ddawns Fai yn Coleg, oedden i'n fwy call, a wnes i bihafio'n hun. Fi'n siwr bydde nhw'n falch o unrhyw ffans sydd 'da nhw ar ol erbyn hyn ta beth.


cofio ti yn y blaen yn hammered yn y gig yna :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron