Re: Pump am y Penwythnos - 28/7/06
Postiwyd: Gwe 28 Gor 2006 1:20 pm
1. Fuoch chi erioed yn ‘ffan’ o rywbeth? Beth?
Beatles, Ash, Suede, Radiohead, Melys, Robert Sean Leonard, Dean Cain, My Little Pony, My Child, ...llwyth o bobl.
2. Pa ffurf oedd i’ch ‘penboethni’*?
O'n i'n aelod o ffan clyb My Little Pony. Odd fy nghariad at yr holl fandiau yn amlygu'n bennaf ar gloriau llyfrau ysgol - lot o sticeri ar y tu fas, a lyrics caneuon wedi'u sgwennu ar y tu fewn. Odd 'y'n ffeil arlunio i yn bictiwr o hysbysebion, posteri a sticeri bands... O, a unwaith 'nes i greu collage/peintiad o fands cool-cymru (sori am hwnna.)
3. Beth oedd gweithred fwyaf eithafol eich ‘ffanatigiaeth’*?
'Nes i'm byd eithafol byth. Jyst byw ym myd bach 'yn hun a dychmygu pa bynnag eilun du jour a finne'n sgippo mewn i'r machlud.
4. Pa mor selog oeddech chi i’ch eilun?
O'n i'n selog dros ben i Suede. Nhw ddisodlodd Ash a'r Beatles, a 'nath neb ar 'u holau nhw gyrraedd cweit 'r un lefel o gariad. Fysen i'n tapio bob rhaglen o'n nhw'n ymddangos arni, yn darllen bob erthygl - ond dim ond un gig es i iddi erioed - yng Nghasnewydd. Dwi'n dal i garu nhw rili...
5. Yn eich barn chi, be’ fyddai barn eich eilun o’ch ‘ffanatigiaeth’?
Pe bai fi'n cwrdd Brett Anderson fory, wy'n eitha sicr taw fe fydde'r dyn cynta i ddeall fi go iawn, a finne fyntai, a fydde'r ddau o'n ni'n sgippo mewn i'r machlud fel yn fy mreuddwydion gynt