Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan anffodus » Gwe 04 Awst 2006 6:16 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Ma gin i un a mae o gin i bron yn bob man ond fyswn i'm yn deud mod i'n gaeth iddo fo.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Ysgwyd llaw efo tad y plant

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Stopio'r Deddfa' Uno rhag digwydd

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Cymru Rydd Gymraeg

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Bocsyr siorts
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Wierdo » Gwe 04 Awst 2006 6:41 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Swnin licio deud na, chos tydwi ddim yn ffonio neb gymaint a hynny, a does na neb llawer yn fy ffonio i....ond;
Swni ar goll heb fy holl rifau ffon
Swni ar goll heb y calendr sy'n fy atgoffa pa oriau dwin gweithio, be i wylio ar y teledu, pryd i dalu rent a.y.y.b.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Dwnim, mana lot fawr iawn. Mi neshi ddarllen nw gyd tua 6 mis yn ol i ddewis un i gael ar flaen ein crysau rhyngol, "Dangos Dy Fwnci" gurodd
:wps:

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Mynd yn ol wythnos i enill y Loteri (Hunanol)

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Swni ddim yn goro gweithio, ond swnin ei wario fo i gyd ar alcahol yn sdeddfod ac yn marw

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Crys T fel arfer.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Geraint » Gwe 04 Awst 2006 10:31 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Hollol gaeth. Dwi'n checio fo trwy'r amser. Dwi'n edrych ar wap i gael updates o newyddion pel-droed a Big Brother, yn aml. Y ffon yw fy larwm yn y bore hefyd, mae o yn neu ar ochr y gwely yn y bore.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Mwdwlwasgwr

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Rhyw foment dyngedfennol a newidodd hanes Cymru, fel trio cael Glyndwr i Amwythig i helpu Hotspur yn y frwydr i orchfygu Henry IV. Ond os tase ni'n mynd nol, bydde neb byth yn gwrando arnaf, dyn a ddaeth o unman, efo dim cefndir na thras. Byddw ni'n siwr o gael fy'n lladd am fod yn wallgof. Ond efallai os tasw ni yn darogan y dyfodol a byddai'n dod yn wir, bydda nhw'n fy ngweld fel rhyw fath o ddewin. Felly yn canrifoedd i ddod, mi fyddai pobl yn son am Geraint, dewin Glyndwr, yn yr un modd a da ni'n son am Myrddin :D :rolio:

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Byddai Cymru wedi ymestyn tuag at Birmingham. Byddai niferl o Gymru wedi symud i America ar ol ei ddarganfod. Byddai y Gymraeg wedi dod yn brif iaith America, a wedi lledu drosd y byd. Byddai The English Language Society yn trefnu protestiadau a gigs yn Llundain i mynnu hawliau i'r iaith Saesneg, a fyddai dan fygythaid mawr o ddiwyllaint Cymro-Americanaidd.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Pants.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Ioan_Gwil » Sad 05 Awst 2006 3:50 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Dim manag, dim chwanag. Fi feddyliodd am honna. 8)



ma honna'n un warthus, paid a brolio
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Chwadan » Sad 05 Awst 2006 5:54 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Braidd. Dwnim be 'nai yn steddfod pan eith o'n fflat.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Brecwast chwadan.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Cael gwared o bob tro dwi di niweidio bodiau fy nhraed drwy, er enghraifft, gerdded i mewn i ddrws gwydr, rhedeg ces drostynt ac ati.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Bodiau traed deliach a llai o regi.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Pyjamas. Mwya streipiog, gorau oll. Neu ddim pan yn feddw.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Fatbob » Llun 07 Awst 2006 7:49 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Pentrecagle?!!

Lle ma fanna! Dwisio mynd yno i gael tynnu fy llun wrth yr arwydd. Dio wrth y Steddfod?


Hewl G'fyrddin i Castell Newydd Emlyn, mond tafarn sydd na fi'n credu ond ma na arwydd, ma fe jyst wedi'r troiad i Henllan/Tren Stêm Dyffryn Teifi.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron