Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Sili » Gwe 04 Awst 2006 1:37 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Nagydw. Dim ond ambell berson dwi'n alw neu'n gyrru neges i'n reolaidd felly dwi'n siwr y byddwn i ddigon bodlon heb un. Mae o'n beth bach handi fodd bynnag.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Fflanj. Cnychu yn air da hefyd, ag un, os gai fod mor hy a deud, sydd ddim yn cael ei ddefnyddio hanner digon aml mewn sgyrsiau pob dydd.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Arholiad olaf y flwyddyn ym mis Mehefin wedi i mi golli pob mymryn o ddiddordeb mewn pasio ac felly o ganlyniad yn talu am fy mhechodau ar y 14th. Wyps.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Mi fyddwn yn gallu mwynhau wythnos o'r eisteddfod ynlle'r pedwar, bump dwrnod dwi di addo i mi fy hun.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Cyn lleied a phosib fydd hi fel arfer, dillad isaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Manon » Gwe 04 Awst 2006 1:58 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
'Dwi'n cael gyfnodau o fod yn obsesif am fy ffon bach pinc, ond ar hyn o bryd, 'dwi'n reit hapus mynd allan hebddo.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
'rhyddhau mandela' a 'rhyddhau'r gwystlon siocled'. :D

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
'Swn i ddim 'di prynu'r v-slicer. Mae o'n crap.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Fysa gen i £9.99 yn ychwanegol yn fy ngyfri banc.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Dim byd.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Fatbob » Gwe 04 Awst 2006 2:11 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Oes ond dwi'm yn gaeth o bell ffordd. Bricsen fach sydd ond yn ffonio a tecstio sydd gen i - yn union beth ma nhw fod i wneud (er dwi'm yn erbyn technoleg o gwbl, ges i fy ffôn symudol gynta nôl yn 1994).

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Oes wir rhaid dewis un? Ma nhw'i gyd mor dda - dwi'n diawlo rheini sy'n dweud wrth bobol 'well, actually in Welsh we haven't got any swear words'. Os oes rhaid dewis un wel mi ddweda i cagl gan i fi yrru drwy Pentrecagle ddoe a gwneud i mi chwerthin fel crwtyn bach drwg.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Yr un peth a wnaeth Biff yn Back to The Future II - mynd nôl ag ennill fortsiwn drwy dreual y loteri, betio ar y ceffyle ac ati a finne'n gwbod y canlyniadau i gyd.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
So chi di gweld BTTF II? Mi fyse'r lle ma'n ddifeithwch a finne'n rhedeg y sioe!

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Pans, a pan ma hi'n rhy dwym dwi'n mynd yn commando.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Jeni Wine » Gwe 04 Awst 2006 2:18 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Nachdw ac oes.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Nips dy Nain mewn Naan (da di hiwmor Cofis)
Trwyn Mwnci (gair am gont)
Basdaduch
Brecwast Chwadan
a'r anfarwol ASIFFETA!

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Er mwyn cofio lle roish i nghot newydd hyfryd Diesel i

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Faswn i fawr callach achos faswn i ddim wedi ei cholli hi yn lle cynta nafaswn ond mi fasa gen i un got yn ychwanegol (un blydi neis efyd)

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Chanel no. 5
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 04 Awst 2006 2:42 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Dwi ddi yn aml hebddo fo, ac ynddo fo mae holl rifau ffôn pobol dwi'n nabod, felly faswn i ar goll hebddo fo. Debyg mod i felly.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Dwi'n eu caru i gyd yn hafal.

O, oce ta, gorfod bod yr ebychiad "coc y gath", honno dwi'n ddefnyddio amla. Ma'n codi'n hwylia pan ma rwbath yn mynd o'i le!

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Colled cywyddau a phenillion ffiaidd a doniol Rhys Jones a'i griw y Gymdeithas Loerig. Blydi Piwritaniaid.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Fase ganddon ni ddipyn mwy o dystiolaeth fod Cymry'r 18fed ganrif ddim mor sych a fflewjan lleuan, ac efallai y gallen ni gysylltu chydig yn fwy gyda'n hanes yn lle cael pobol yn ceisio ein brênwasho fod ein cyndeidiau Piwritaniadd gyfystyr a Duwiau. Pa gydymdeimlad alla i deimlo efo nhw? Alla i gydymdeimlo lot efo'r Lloerigyddion.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Dim, gan fwya.

Trôns yn gaea os mai'n oer iawn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 04 Awst 2006 2:45 pm

Fatbob a ddywedodd:2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Oes wir rhaid dewis un? Ma nhw'i gyd mor dda - dwi'n diawlo rheini sy'n dweud wrth bobol 'well, actually in Welsh we haven't got any swear words'. Os oes rhaid dewis un wel mi ddweda i cagl gan i fi yrru drwy Pentrecagle ddoe a gwneud i mi chwerthin fel crwtyn bach drwg.

Pentrecagle?!!

Lle ma fanna! Dwisio mynd yno i gael tynnu fy llun wrth yr arwydd. Dio wrth y Steddfod?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan joni » Gwe 04 Awst 2006 3:02 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Pentrecagle?!!

Lle ma fanna! Dwisio mynd yno i gael tynnu fy llun wrth yr arwydd. Dio wrth y Steddfod?

Ma na Nant-y-cagl i gael lan rownd Nant-y-Moch hefyd, er sai'n credu fod yna arwydd i ti cael dynnu ei lun.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Dwlwen » Gwe 04 Awst 2006 3:26 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Ddim ers i fi gael yr un presennol - wy'n 'i gasau fe, a'r blydi gwerthwyr dros-ffon 'nath hasslo fi am ddeufis, a finne'n gwrthod y ffon, cyn rhoi mewn a gdael iddyn nhw hala'r blydi peth ata i.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Ma ffeuen binc yn un fach pert, ond 'dod ar fy mhen...' yw'r ffefryn. NB. Ma 'dy Sanctaidd law' (as in glaw) yn gwithio cystel, ac mewn ffordd bach mwy drygionus, na 'sanctaidd saim'. Wy 'di meddwl gormod am yr ymadrodd yma, ydw.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Fy ngwallt c.1998...

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Fydden i'n edrych llai fel mynach yn y lluniau o'r trip i Nant Gwrtheyrn.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Jim - jams 'Modern Woman' o M&S. Pwy wedodd nad yw flanellette yn secsi?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 04 Awst 2006 4:16 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Dw i'm yn licio ei gyfaddef, ond ydw, mi ydw i'n gaeth iddo

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Tits dy Nain ar dost

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Lot o bethau. Lot.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Byswn i'n well fy myd

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Shorts
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan khmer hun » Gwe 04 Awst 2006 4:21 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Odw braidd. Ma fe'n cadw dyddiade, cloc larwm ac atgofion

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
tits a blew a ffani go lew;
coc y gath a y dorth.
Yn dod â thafodiaith bert bro fy mebyd nôl i'r co'.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Stopio fi rhag dysgu smocio am 4 y bore tu fas y garafan yn Cnapan Ffostrasol circa 1990.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Sen i wedi rhedeg ras yr Wyddfa, achub pandas a theigrod, dringo'r K2 a windsyrffo o Gernyw i Lydaw, ac yn gallu canu'n well.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Gwn nos os fi'n ffeindo un, neu di-shyrt cyffyrddus fel un meic stevens fi neu'r un winabego coch. Sen i'm yn gallu gwisgo un Aphex Twin neu rywun felna i gwely; se ni'n breuddwydio am ddynion â bronnau a phethe. O leia fi ond yn breuddwydio am wisteria'n hongian o'r wal a rhywun yn dala fi lan.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron