1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Nagydw. Dim ond ambell berson dwi'n alw neu'n gyrru neges i'n reolaidd felly dwi'n siwr y byddwn i ddigon bodlon heb un. Mae o'n beth bach handi fodd bynnag.
2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Fflanj. Cnychu yn air da hefyd, ag un, os gai fod mor hy a deud, sydd ddim yn cael ei ddefnyddio hanner digon aml mewn sgyrsiau pob dydd.
3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Arholiad olaf y flwyddyn ym mis Mehefin wedi i mi golli pob mymryn o ddiddordeb mewn pasio ac felly o ganlyniad yn talu am fy mhechodau ar y 14th. Wyps.
4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Mi fyddwn yn gallu mwynhau wythnos o'r eisteddfod ynlle'r pedwar, bump dwrnod dwi di addo i mi fy hun.
5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Cyn lleied a phosib fydd hi fel arfer, dillad isaf.