Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 04 Awst 2006 11:02 am

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 04 Awst 2006 11:28 am

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Odw, ma Nokia N70 'da fi. Fel bricsen bach, ond mae'n gallu neud popeth. Ma emulator NES 'da fi ar 'na hefyd. Super Mario ar y bws. Joio.
Eitha obsessed da'r ffôn i gweud y gwir. :wps:

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
'i neud pump'. Nace bo fi neud hwn yn aml w'th gwrs. Odd e jesd di neud fi chwerthin, reit? :winc:

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Hmmm, annodd. I bod yn hollol hunanol, a fi nol i'r amser arholiadau nol yn mis mai eleni a neud mwy o bastad gwaith ar gyfer fy ecsams terfynol.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Dim gorfod ail-ishte mewn 2 wythnos a gorfod adolygu ar y foment. Hunanol ie, ond y peth cynta sy'n dod i'm feddwl. :D

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Pajamas 'chan.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Cymro13 » Gwe 04 Awst 2006 12:01 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Nagydw

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Cachboeth

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Llwyddodd yr ymgyrch Senedd i Gymru 1950au

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

ymmmmm

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
shorts a chrys t
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Sleepflower » Gwe 04 Awst 2006 12:27 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Nadw, does neb byth yn cysylltu da fi er gwaetha fy ymdrechion i gysylltu a nhw.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Llaeth lluosogi

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Dechrau Coleg eto, ochos fan ni dechreuodd popeth mynd o le.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Bydde'n i wedi osgoi cwrdd a rhai pobl dwi'n difaru cwrdd a.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Pyjamas a thopiau peldroed. Sdim byd fel polyester i helpu chi chwysu pan chi'n deffro'n sgrechen am 4 yn y bore.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Ray Diota » Gwe 04 Awst 2006 12:57 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Se ni'n gweud nagw... ond ma'r ffaith bo fi di gwario £1,800 ar y ffycyr mewn llai na 18 mis yn gweud yn wahanol... :o :x :crio:

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

yyyyyym...C.D.T (coc dan tap) h.y. golchad eitha shodi... :lol:

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

machine guns a bazookas yn 1282. joio.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

mwy o gymry cymraeg nad ydw i'n eu hoffi'n ormodol siwr o fod... so ffac it, ai nol a lladd McCartney cyn iddo fe ddechre Wings yn lle...

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?[/quote]

neithiwr: fy nillad gwaith :wps:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan joni » Gwe 04 Awst 2006 1:08 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Ma fe gyda fi o hyd. Ond an-aml ma rhywun yn fy nghysylltu arno. Heblaw am nosweithie sadwrn, pan fod PAWB moyn cwmni joni.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
"coc oen". Traddodiadol.Syml.Tanddearol

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Sai'n siwr. Rhywbeth i wneud 'da rhyw minger yn rhywle ma siwr. Yr un o'dd gyda stubble fyswn i'n meddwl.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Dim o gwbl heblaw byswn i ddim wedi cael profiad y bearded lady.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
T-shirt a boxers. Yn debyg i'r Sleepflowryn, dwi'n hoff o'r teimlad polyester yna tra'n cysgu hefyd. Mmm...static.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan AFFync » Gwe 04 Awst 2006 1:17 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Wedi cael un newydd - Motorola V360. Yn pissed off achos dwi ddim cweit yn ddallt o! Mae'r gemau yn wych!

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

alcopwp

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Gadael Prydain enill Ryfel Annibyniaeth America


4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Fydd yr UDA dal yn rhan o Prydain a fasa na ddim arlywydd Bush (dwi'n gobeithio).


5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Pyjamas - glas a gwyn
Rhithffurf defnyddiwr
AFFync
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 6:16 pm
Lleoliad: Baile Átha Cliath

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Cawslyd » Gwe 04 Awst 2006 1:17 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Dim felly...

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Mistar Urdd :lol:

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Y playoff Cymru v Rwsia cyn Euro 2004. S'ai di bod yn laff sa ni di mynd drwodd. :crio:

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Sa Cymru di ennill Euro 2004, gan ddod yn wlad hynod unedig wedi curo Lloegr yn y ffeinal (Mark Hughes yn dod allan o'i ymddeoliad i sgorio'r gol allweddol), gan arwain at chwyldro yng Nghymru, daw Cymru'n rhydd, gyda Sparky'n Brif Weinidog.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Fy siortiau boxerog.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan HBK25 » Gwe 04 Awst 2006 1:24 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Mae gen i un, ond dwi'n casau pobl sy'n mynd ymlaen ac ymlaen am y blydi pethau. DIM ON FFECIN FFON YDI O :crechwen: :!:

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

'Sgen i ddim un - byth wedi darllen y rhegiadur.

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Y ddeng mlynedd diwethaf o'm mywyd - neu efalla newid pethau fel y buaswn i wedi aros yn y ganolbarth.

Ond eto, dydi ffidlo hefo'r space-time continium ddim yn beth da - efalla newid hanes - yn enwedig y ddigwyddiadau pwysig - yn creu sefyllfeydd gwaeth. Ar y cyfan, 'swn i'n gadael pethau felly i Quantum Leap. :crechwen:

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Yn fy mreuddwydio, ddim byd a mae Nelly Furtado yna hefyd. Go iawn, boxers a chrys T.[/b]
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos 4.8.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 04 Awst 2006 1:29 pm

1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?

Gobeithio ddim.

2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?

Dim manag, dim chwanag. Fi feddyliodd am honna. 8)

3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?

Stopo Jonathan Davies, Adrian Hadley, Dai Young etc rhag mynd i rygbi'r gynghrair.

4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?

Cymru wedi ennill Cwpan y Byd '91 a '95, ennill y Gamp Lawn bum mlynedd o'r bron. Curo Seland Newydd 50-0 etc etc.

5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?

Jim jams. Fy nillad ar ôl meddwi.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron