1. Ydych chi'n gaeth i'ch ffôn symudol, os oes un 'da chi?
Hollol gaeth. Dwi'n checio fo trwy'r amser. Dwi'n edrych ar wap i gael updates o newyddion pel-droed a Big Brother, yn aml. Y ffon yw fy larwm yn y bore hefyd, mae o yn neu ar ochr y gwely yn y bore.
2. Beth yw'ch hoff reg chi o'r Rhegiadur?
Mwdwlwasgwr
3. Beth yw'r un peth fyddech chi'n teithio nôl mewn amser i'w newid?
Rhyw foment dyngedfennol a newidodd hanes Cymru, fel trio cael Glyndwr i Amwythig i helpu Hotspur yn y frwydr i orchfygu Henry IV. Ond os tase ni'n mynd nol, bydde neb byth yn gwrando arnaf, dyn a ddaeth o unman, efo dim cefndir na thras. Byddw ni'n siwr o gael fy'n lladd am fod yn wallgof. Ond efallai os tasw ni yn darogan y dyfodol a byddai'n dod yn wir, bydda nhw'n fy ngweld fel rhyw fath o ddewin. Felly yn canrifoedd i ddod, mi fyddai pobl yn son am Geraint, dewin Glyndwr, yn yr un modd a da ni'n son am Myrddin
4. Beth fyddai canlyniad hyn ar y ffordd mae'r byd heddiw?
Byddai Cymru wedi ymestyn tuag at Birmingham. Byddai niferl o Gymru wedi symud i America ar ol ei ddarganfod. Byddai y Gymraeg wedi dod yn brif iaith America, a wedi lledu drosd y byd. Byddai The English Language Society yn trefnu protestiadau a gigs yn Llundain i mynnu hawliau i'r iaith Saesneg, a fyddai dan fygythaid mawr o ddiwyllaint Cymro-Americanaidd.
5. Beth y'ch chi'n gwisgo i'r gwely?
Pants.