Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Essouiera yn Morocco. Wnes i fynd am 10 diwrnod i aros gyda ffrind oedd yn byw yno ar y pryd (mae hi nol yn Prydain nawr)
Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Dulyn i weld fy mrawd (heb 'di weld o ers blwyddyn ) ffrindiau, ag gweddill y teuly.
Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Gerwyn yn gofyn i mi os oeddwn i eisiau tocyn i weld Kylie.
Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Mae gen yr ex dueddiad i alw pan dwi'n cysgu ond mae o'n un o ffrindiau gorae mi felly dwi'm yn meindio.
Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Distaw hyd yn hyn. Mae hi wedi bod yn wythnos reit cachu i ddweud y gwir.