Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Dewi Lodge » Sul 27 Awst 2006 11:37 pm

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
I Wlad y Basg ym mis Mai i genfnogi Cymru'n y peldroed. Penwythnos penigamp - a ma gen i'r creithiau i brofi hynny!!

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
I'r Weriniaeth Siec dydd Iau yma i (ahem) gefnogi Cymru'n y peldroed.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Fy nghyfaill Richard echdoe isio gwbod lle roeddwn i. Oni ar fin cychwyn adra o Gaer ar ol bod yn y rasus (a colli mhres i gyd :( ).

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Ryw feddwyn yn cael y rhif anghywir ag yn ffonio tair gwaith yn olynol yn yr oriau man :x ! Dwi'm yn cofio pryd yn union - dros blwyddyn yn ol. Chwedl Peter Kay - "who's that ringing at this time o'night?"

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Iawn, Duw. Di cael cinio yn nhy mam a dad ar ol torri coed yn yr ardd yno. Ty cyfeillion pnawn a phenderfynu bod dim mynadd mynd allan ar y lash heno felly aethom i'r bwyty Tseiniaidd am slap-yp parchus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan fela mae » Llun 28 Awst 2006 11:04 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Gwyliau dramor diwethaf - Costa Dorada ddechrau'r haf efo 4 o ffrindiau.
Gwyliau yng Nghymru - Noson yn Abertawe adeg gem bel droed Cymru pythefnos yn ol.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Noson yng Nghaerdydd adeg gem bel droed nesa Cymru adref

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

fy nghariad i - pnawn ddoe er mwyn gofyn am lifft o aber i penrhyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Ddechrau mis Awst - ffoniodd cyn gariad fi'n hollol racs neu ar ryw gyffuriau ar y traeth yn aberdaron - eitha doniol gan ein bod dal yn ffrinidiau.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Iawn - yn gwaith.. mae'r haul newydd ddod mas - felly'n rhoi fi yn yr hwyliau i yrru i'r gogledd i fynd i tan y ddraig heno. ( sy'n 20 punt y ticed !!!! ) [/b]
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Daffyd » Llun 28 Awst 2006 6:17 pm

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
I dref fach o'r enw Albir, tua dau filltir i ffwrdd o Benidorm efo criw o hogia o Coleg. Ffyc ôl i neud yno (odd rhaid mydn i Benidorm am noson allan dda), ond odd y tywydd mor braf a'r hangovers mor wael, oll oedd ei angan odd y traeth.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Ddim am hir fysw ni'n meddwl. Cychwyn Prifysgol mewn llai na mis wan, a dwi'n tybio fydd hi'n anodd fforddio neud dim byd felna eto.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Fy nghariad.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Nos Sadwrn, pan geshi alwad tra o ni heb ddeffro yn iawn, a dal yn chwil gach, so cofio ffyc ôl o be neshi ddeud wrthi.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Dwrnod neud ffyc ôl. O ni wedi planio gneud wbath, ond, wrth gwrs, it didn't happen. :(
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron