Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 25 Awst 2006 9:06 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Manon » Gwe 25 Awst 2006 9:17 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Gwylia dramor- I Seland Newydd ar fy mis mel dwy flynedd a dipyn yn ol
Gwylia yn y DU- Noson yn Efrog ar ben-blwydd fy ngwr ym mis Hydref
Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Dim syniad. 'Dwi'n cysidro cael deal munud ola' i fynd i Haven neu r'wla fel 'na.
Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Fy chwaer, yn llawen iawn achos bod ei gwaith yn mynd mor dda.
Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Tua pedair mlynedd yn ol- Roedd cyn-gariaad i fi yn cael cyfnod weird o ffonio fi a neud swn 'rh' fel cath yn canu grwndi, jysd i ffricio fi allan. :drwg:
Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Iawn hyd yn hyn, ond 'dwi 'di cael y ty i mi fy hun i llnau achos bod fy chwaer yng nghyfraith yn dod i aros heno. Ych a fi...
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Llefenni » Gwe 25 Awst 2006 9:20 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Groeg - Ynys Zakynthos. Dwidi gwirioni ar Roeg, y bobl, yr hanes, y tirwedd, Groeg, Groeg, Groeg... :D

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Fydda'i a'r Cariad a'i frawd a'i gariad o yn mynd i Gran Canaria mewn rw dair wsos - dio'm yn cyfri fel "Couples holide" achos brodyr di nhw.... don't dw couples :?

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Mam... dwi mor roc a/neu rôl.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Misoedd yn ôl :( i adel y cariad meddw fewn (mae o gan amla' reit annwyl pan mae o wedi meddwi cofiwch, so doedd o'm stress mawr)

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Dim yn wych, gan i fi fod allan nethiwr, ac anghofio sut i neud small talk, felly offendio'r bobl dwi'n lled-adnabod yn y swyddfa. Biwt :?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 25 Awst 2006 9:23 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

(Sdeddfod) ond cyn hynny i Wlad Pwyl efo Dawnswyr Môn (odda ni yn y Cymro tra odda ni yno dwi'n meddwl. Ddy wyndyrs of imel de?!). Uffar o wyl fawr, a diawl o hwyl. Mi flogiai amdano fo rywbryd, ella.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Dwnim, da ni am fynd efo'r garafan y penw'sos yma gobeithio. Unai Pen Llyn neu i'r Faenol neu i Ogledd Ynys Môn.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Pingw (nos Fercher :( ) yn gofyn i mi os o'n i isho mynd i'r dafarn.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Fyddai wastad yn diffod fy ffôn yn y nos fel nad ydio'n canu arnai'n cysgu 8) Ond stori ddiddorol, nesh i ffonio ffôn ty yn fy nghwsg unwaith! :D

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Da iawn hyd yn hyn diolch. Gesh i ddigon o gwsg neithiwr, a newydd gal un o'r petha choclet caramel 'na so dwi'n hapus!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Gwen » Gwe 25 Awst 2006 9:25 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

I Gyprus ddiwedd mis Ionawr. Peidiwch.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

I Werddon. Pnawma.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Ymm... Fy chwaer a ngwr neithiwr i ddeud nad oeddan nhw isio lifft adra o'r dafarn wedi'r cwbwl. Ro'n i di dwad adra cynt gan nad on i'n gallu dwad o hyd i doilet merched yn y dafarn.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Mae gan fy ngwr lot o ffrindia meddw sy'n gneud hyn, felly nos Sadwrn dwytha mashwr.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?[/quote]

Hyd yn hyn? Golchi gwallt, pacio, a siarad efo fy chwaer (sy bellach yn fy anwybyddu i gan ei bod hi'n darllen llyfr i ddarllenwyr anfoddog). Iawn am wn i, ond bod fy nghlustia i'n lyb a finna'n methu dwad o hyd i gotyn byds. Gas gen i gael clustia glyb. :x
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 25 Awst 2006 9:26 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Steddfod. Odi mae e'n ffycin cyfri!

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Biarritz mewn pedair wythnos.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Sili, yn ôl y ffôn symudol.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Sbel nôl, gyda fy chwaer yn cwyno am y llygod yn ei fflat hi. O'n i'n gallu neud dim am y sefyllfa, achos mae hi'n byw yn Llundain.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Digon di-nod hyd yn hyn. Heb gael people carriers yn trio 'nharo i drosodd fel bore ddoe, ac fi ar fin mynd i gael paned.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Gwen » Gwe 25 Awst 2006 9:27 am

Manon a ddywedodd:Tua pedair mlynedd yn ol- Roedd cyn-gariaad i fi yn cael cyfnod weird o ffonio fi a neud swn 'rh' fel cath yn canu grwndi, jysd i ffricio fi allan. :drwg:


:o
:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 25 Awst 2006 9:46 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Gwyl y Dyn Gwyrdd. Ahhhhhhhhhhh :D

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Tyddewi p'nawn ma, ond jyst am noson. Dwi'n siwr fydd hi'n hyfryd ('blaw am traffic a'r ciws sy'n siwr o gychwyn yn fuan ar ol Morrisons Caerfyrddin :( )

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Ma llwyth o bobl 'di ffonio i ofyn am 'finance' yn gwaith heddi :? Wy'n ystyried dechrau jyst chwibannu lawr y ffon... Galwad personol dwetha, Gfaham.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Wy 'di hen ddysgu troi'r ffon off pan wy'n mynd i gysgu... Ond gan 'mod i'n y Green Man wicend diwetha (ac o reidrwydd lan trwy'r nos) - Ioan - yn dweud wrtho ni ddod i'r baner 'Such Great Heights' i glywed sesiwn fach gan Spencer McGarry a Sweet Baboo. Yn anffodus, 'nath Ioan ddwyn y gitar yn fuan iawn ar ol i'r ddau yna ganu, er mwyn canu Travis a Paul Simon :rolio:

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Diwrnod oce - eitha rhyfedd. Ar ben 'yn hun mewn swyddfa gwag. Fy mhrif amcanion yw cymryd galwade a sgwennu post its - slash - chwilio am docynnau sbar i Broken Social Scene yn y Point nos Fawrth (sy' wedi gwerthu allan bore 'ma - wy'n cicio'n hun am beidio prynnu rhai o wefan y Point ddoe :drwg: )
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 25 Awst 2006 9:46 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Yng Nghymru: Gwyl y Dyn Gwyrdd, Crug Hywel, penwsos dwytha
Dramor: Yr Ariannin i briodas yn Esquel, fis Chwefror dwytha

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Mis nesa, mi fydda i a 9 arall yn mynd i Wlad yr Ia i ddathlu pen-blwydd fy mam yn 60

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Mihangel Macintosh, ddoe yn gwaith.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Tua 6 mis yn ol, o be dwi'n gofio. Fy ffrind a'm chwaer yng Nghaerdydd isio gwybod be oedd rhif ffon Booze Boy

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Aru Mihangel neud pacd-lynsh i mi cyn i mi adael y ty (brechdana caws a ham a salad...iym!) - sy'n beth prin iawn, coeliwch fi - felly champion hyd yn hyn, diolch. Ac mae na benwythnos hir o mlaen felly dwi reit sionc heddiw, rhaid deud.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

Postiogan mam y mwnci » Gwe 25 Awst 2006 9:47 am

Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Steddfod

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
steddfod! Ma mywyd i moooooor ecseiting.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Y person dwethaf i fy ffonio oedd y boss yn holi cwestiynau anodd am rhyw ddarn o waith - fydde nhw ddim yn anodd fel reol ond ma gen i bach o hangover heddiw wedi noson ddifyr yn y blac boy.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Nos wener/bore sul y gwr yn ffonio i weld os o'n i adref ond o'n i mewn parti! :crechwen:


Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Ok heblaw am y cwestiynau anodd ond ma hi'n ddydd gwener ac mae popeth yn iawn ar ddydd gwener.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron