Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
I Wlad y Basg ym mis Mai i genfnogi Cymru'n y peldroed. Penwythnos penigamp - a ma gen i'r creithiau i brofi hynny!!
Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
I'r Weriniaeth Siec dydd Iau yma i (ahem) gefnogi Cymru'n y peldroed.
Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Fy nghyfaill Richard echdoe isio gwbod lle roeddwn i. Oni ar fin cychwyn adra o Gaer ar ol bod yn y rasus (a colli mhres i gyd ).
Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Ryw feddwyn yn cael y rhif anghywir ag yn ffonio tair gwaith yn olynol yn yr oriau man ! Dwi'm yn cofio pryd yn union - dros blwyddyn yn ol. Chwedl Peter Kay - "who's that ringing at this time o'night?"
Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Iawn, Duw. Di cael cinio yn nhy mam a dad ar ol torri coed yn yr ardd yno. Ty cyfeillion pnawn a phenderfynu bod dim mynadd mynd allan ar y lash heno felly aethom i'r bwyty Tseiniaidd am slap-yp parchus.