Tudalen 3 o 4

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 11:07 am
gan Dwlwen
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Dave, cyd-weithiwr. Deg munud yn ôl. Cyn hynna, Eben fardd, a cyn hynna Dwlwen yn dweud fod bailfs wedi galw draw i'w th? blaenorol achos mod i heb dalu'r treth cyngor ers pan o ni'n rhannu t? gyda hi dros flwyddyn yn ôl.

Sori nad odd newyddion gwell gen i :wps:
Gwych o nodyn though, rhywbeth fel "we called today to claim items in lieu of Council tax, but you weren't in..."

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 11:50 am
gan Geraint
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Bilbao a San Sebastian a'r darn rhyngdyn nhw.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Medi: Penwythnos yn Soflach ac wythnos yn Ne Twrci

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Rhywun o Radio Cymru. Rong number oedd o.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Nos Sul dwetha: Iestyn ap yn dewis amser anghyfleus iawn i ffonio!

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

anniddorol

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:12 pm
gan Mephistopheles
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Sdeddfod!

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Sdeddfod! Masiwr

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Ioan Gwil, dwim yn cofio am beth reodd y galwad chwaith

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Nos Fercher dwytha, Ioan Gwil eto, wedi meddwi, yn gwaeddi 'Ti yna?? Deud wbath y cont sych!' Ar ol noson feddwol yn Ty Newydd

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Gwych, wedi pasio prawf theori gyrru car bora ma a brecwast yn Mcdonalds (dw dw dw dw dwwww, I'm lovin It!)

tew

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:15 pm
gan Ray Diota
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Steddfod. Chi'n gwbod bo chi'n cal haf crap os chi'n gweud mai i'r steddfod chi'n mynd ar wylie. :(

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Falle ai i weld y brawd yn llunden yn mis medi... a ma Dias a fi di hanner son am fynd i Berlin. Licen i fynd i Berlin.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Mae fy ffon yn dweud mae "Big Penis" odd y dwetha i ffonio. Ma 'da fy ffrind, Dan, habit o newid ei enw ar ffonau pobol ch'wel'.

Newidodd e'i enw i "Dad" ar ffon fy ffrind unwaith a txto: Me and your mum are finished, I'm gay. Sorry I couldn't tell you face to face.

Ath y boi'n nuts.

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Saimo, ma na rhyw witheld number yn ffono tua 12 bob nos ar y foment ond sai'n ateb witheld numbers ganol nos so ffyc nows pwy sy 'na.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Gwd 'chan - piss up mawr heno. A ma dy gwener yn mynd yn gloiach pan fo piss up yn eich aros...gwd.

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:17 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Gwlad y Basg (ar wahan i benwythnos yn y garafan yn Abertawe bythefnos yn ôl)

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Gwlad yr Iâ fis Tachwedd - unrhyw awgrymiadau a byddaf yn falch! (os na ga i fy 'sgubo i rhywle penwythnos yma)

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Dwnim - rhyw rif rad-ffôn - mi ddudish i "helo", a mi faglodd hitha ar fy nghyfenw i, dechra' chwerthin, a rhoi'r ffôn i lawr... :? (HI, nid fi!) Mae cael cyfenw Cymraeg yn ffordd dda o gael gwared o alwadwyr gwerthiant :lol:

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Rhyw fore wsnos diwetha - mi OEDD hi tua 7.30am ond ro'n i'n dal yn cysgu... Rhywun isho gwbod os o'n i wedi cyrraedd y gwaith neu beidio :? Dyyy.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Ddim yn grêt. Misrybl iawn a deud y gwir. Fy nannedd i yn fy mhoeni fi, a 'moch chwith wedi chwyddo... :crio: [/quote]

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 12:22 pm
gan mam y mwnci
Ray Diota a ddywedodd:Mae fy ffon yn dweud mae "Big Penis" odd y dwetha i ffonio. Ma 'da fy ffrind, Dan, habit o newid ei enw ar ffonau pobol ch'wel'.

Newidodd e'i enw i "Dad" ar ffon fy ffrind unwaith a txto: Me and your mum are finished, I'm gay. Sorry I couldn't tell you face to face.

Ath y boi'n nuts.

.


:lol: ffacin briliant!

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 1:29 pm
gan docito
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

Awstria

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Gambia Gobiethio

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Mam - Wastad yn cynhyrfu pan bo'r mobile yn cau. Wastad yn cal fy siomi pan ma mam sy na

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Dydd Sadwrn diwetha 3am. 'er indoors yn phonio ar ol bod allan am all dayer. Am ddilema:
1. Ateb yr alwad jyst i gael shit!!! neu...
2. Anwybyddu'r alwad jyst i gael shit y bore wedyn.....
2. pob tro

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Diog

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 2:16 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. lle o'r enw sami yn kefalonia.
2. ty ddewi ella, neu bannau bycheiniog.
3. paul o "telesales". :drwg:
4. ddim llawar yn ol - ryw alwad feddw gariadus arall!
5. gweddol. y plastrwrs di dychryn y gath a'r gath di dychryn y plastrwrs. wedi gneud cawl llysia bendigedig... yn lle gweithio. :?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Awst 2006 2:31 pm
gan Cacamwri
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?

I Ddulyn gyda fy nghariad fis Mawrth diwetha, adeg yr eira. O'n ni fod mynd i Milan, ond aeth pethau'n cachu hwch pan ges i ddamwain car yn yr eira, a methu'r awyren :(


Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?

Dim clyw. Gwlad y Basg, Barcelona neu Rwmania fydde'n neis...os bydde'r arian gen i!


Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?

Alex Jones Planed Plant/Hip neu Sgip, ar ran gwaith.


Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?

Sbel fawr iawn, diolch byth!

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?

Go lew. Wedi blino braidd, ac yn pydru o flaen y cyfrifiadur ma achos ges i ddim llawer o gwsg neithiwr.
Ond heb law hynny, edrych mlaen i fynd allan am fwyd nos fory, a diogia trwy dydd Sul!

Re: Pump am y Penwythnos - 25/8/06

PostioPostiwyd: Sad 26 Awst 2006 9:07 pm
gan krustysnaks
Ble aethoch chi ar eich gwyliau diwethaf?
Dwi ar fy ngwyliau! Dwi mewn siop lyfrau / cerddoriaeth yng nghanol Washington DC. Mae'r Capitol, y Washington Monument, Amgueddfeydd (ardderchog) y Smithsonian, Abraham Lincoln yn eistedd yn ei gadair enwog a'r Ty Gwyn o fewn tafliad carreg (chwaraewr criced proffesiynol). Mae'r gwyliau yn parhau ymlaen i Efrog Newydd fory yna Boston, Caerdydd ac adre i Aberystwyth. Fy ngwyliau diwethaf cyn hwn oedd ymweld â Dulyn y llynedd gyda phedwar ffrind, diwrnod cyn i ni dderbyn ein canlyniadau lefel A.

Ble fyddwch chi’n mynd ar eich gwyliau nesaf?
Mae'r ysfa ynof i i gael gwyliau bach arall cyn mynd nôl i'r coleg - gyrru i rywle ym Mhrydain ac aros am noson neu ddwy.

Pwy oedd y person olaf i’ch ffonio chi?
Mam a Dad echddoe - ceisio sortio allan fy sefyllfa ariannol (a dweud helo).

Pryd oedd y tro diwethaf i’ch ffon ganu ganol nos?
Www, dwi ddim yn siwr. Dwi'n methu cofio'n iawn ond fe fideo-ffoniodd Dad fi yn llawer rhy gynnar yn y bore yn ystod y tymor diwethaf yn y Brifysgol. Doedd hi ddim yn olygfa neis iawn iddo, dwi'n siwr.

Sut ddiwrnod y’ch chi’n cael heddiw?
Da iawn, diolch. Ces i lie-in (bach) yna es i'r Dupoint Circle i gael cinio a phori drwy siopau recordiau. Ar ôl gorffen yno, ges i'r Metro nôl i ganol y ddinas ac fe es i ymweld ag Amgueddfa'r Holocost yna Gardd Gerfluniau'r Galeri Cenedlaethol. Fe adawodd fy nghyfaill teithio neithiwr felly dwi ddim wedi siarad gydag unrhywun drwy'r dydd, sydd ychydig yn od (ac yn egluro negeseuon hirach na'r arfer).