Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan garynysmon » Gwe 01 Medi 2006 12:42 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Di'o fawr o ots gen i a dweud y gwir. Gan mod i'n gweithio, mae well gen i pan dydi hi ddim yn braf gan fod y swyddfa yn annioddefol.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Wnesh i'm neud lot wrth sbio nol, ond roedd Wakestock yn dda. Sesiwn fawr braidd yn siomedig.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Dim felly. Peidio mynd i'r Almaen ar gyfer Cwpan y Byd o bosib. Ond a deud y gwir, roeddwn yn gwybod fod gena'i ddim digon o wyliau ar ol na digon o bres beth bynnag.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Dwi'n mynd i Milan mewn pythefnos ac i Kaunas ddiwedd Hydref, ond heblaw am hynny, y Tymor Peldroed yn ol yn ei anterth.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Revels.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan garynysmon » Gwe 01 Medi 2006 12:47 pm

Mephistopheles a ddywedodd:1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Nadw ffwc, ail flwyddyn coleg yn cychwyn wan, happy fun time drosodd GGRRRR


Blydi Hel! Pan oddwn i'n coleg roeddwn yn gweithio mewn warws yn pacio bocsys, ac yn cyfri lawr y dyddiau tan roeddwn yn cychwyn nol mis Medi. Pobol ifanc dyddia 'ma :rolio:

:D
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Mephistopheles » Gwe 01 Medi 2006 1:00 pm

garynysmon a ddywedodd:
Mephistopheles a ddywedodd:1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Nadw ffwc, ail flwyddyn coleg yn cychwyn wan, happy fun time drosodd GGRRRR


Blydi Hel! Pan oddwn i'n coleg roeddwn yn gweithio mewn warws yn pacio bocsys, ac yn cyfri lawr y dyddiau tan roeddwn yn cychwyn nol mis Medi. Pobol ifanc dyddia 'ma :rolio:

:D


Fel ddudodd riwyn uchod, yn cmd dwi, dwi bron yn sicr ei fod ddim run fath o brofiad a prifysgol. Dwim yn gallu disgwyl tan hynny!!
I Like escalators, they cannot break, they can only become stairs
Rhithffurf defnyddiwr
Mephistopheles
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 291
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 11:16 am
Lleoliad: Uffern

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan krustysnaks » Gwe 01 Medi 2006 2:45 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Dydy hi ddim yn teimlo fel bod yr haf drosodd o gwbl ... felly dwi ddim yn siwr sut dwi'n teimlo. Trist i weld diwedd haf da yn dod i ben, efallai.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Gwylio Martina Navratilova yn ymarfer am 40 munud yn yr US Open gan wireddu breuddwyd oes. Roeddwn i ychydig droedfeddi i ffwrdd ohoni tra ei bod hi'n ymarfer ar gyfer y dyblau, felly roedd hi'n ymarfer reflexes, folis - touch anhygoel ganddi.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Cael ID ffug cyn dod i America.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Fy mhen blwydd! A'r lliwiau.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Snickers.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 01 Medi 2006 3:02 pm

1. na. dwi'n diodda o sad.
2. gorweddian yn lan y mor efo'n ffrindia.
3. gneud mwy o waith a gwaith ar y ty.
4. golygfeydd tlws o ddail ar lawr.
5. wine gums.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 01 Medi 2006 3:39 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Hmmm, achos fi newydd cwpla coleg, a fi heb ffindo gwaith 'to, so fe'n neud lot o wahaniaeth i fi ar y foment! Ond ie ma fe wastod yn drist ar ol dod nol o Gwyl Reading bob blwyddyn, ti'n gwbod ti nol i'r byd go-iawn. A bydd sawl o fy ffrindie yn buggro off nol i coleg a finne nol gatre, methu ffordo byw bant ar hyn o bryd.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Neill mynd am penwythnos yn ty fy ffrind yn Maesteg (odd e'n laff, o ddifri! Maesteg yn gwd) ne Gwyl Reading wcend diwetha'. :)
Y gwaethaf odd ail-ishte dwy arholiad o ni dim rili moyn neud. :(

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Myn campo lawr y Gwyr da'r bois, ond methodd rhai o nhw fynd. A hefyd myn am wac lan mynydd Cribarth tu ol i fy mhentre, rhwbeth sai di neud odd ar i fi bod yn 10.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
R'un peth a Gwahanglwyf, gemau rhwngwladol y Hydref yng Nghaerdydd. Un broblem - sai'n byw lan 'na rhagor. D'oh. :trist:

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop tyffish lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Mmm tyffish. Ffacin' fizzî cola botels 'achan, hyper hyper. A llawn dwrn o Miliwns 'fyd.
A wetyn y swn tawel o fy nhanedd yn pwdri yn araf. :D
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Manon » Gwe 01 Medi 2006 3:44 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Tydi o'm drosodd i mi, gan fy mod i'n mynd ar fy ngwylia' wsos nesa'. Ond fel arall, 'dwi'n licio pob tymor llawn cymaint a'i gilydd.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Y bychan yn deud ei air cynta'- "cwac cwac" 8)

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
llnau, ma'r lle 'ma fel tip.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Gwynt a'r glaw tu allan a fy hogia' a minna'n glud yn y ty.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Dime bar neu Snickers.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Manon » Gwe 01 Medi 2006 3:46 pm

Jeni Wine a ddywedodd:2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Priodi fy Mihangel bach fy hun.


Be? Go iawn? :ofn:
Llongyfarchiada!!!!!! (angen gwenoglun party poppers!)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan khmer hun » Gwe 01 Medi 2006 4:28 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
beth yw'r haf i mi? mae treigl yr ha'n cael ei fesur gan wyliau miwsig a big brother erbyn hyn. hymff.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
rhwyfo, a ph'nawniau gwlyb mewn carafans a phebyll yn yfed gwin.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
cael mwy o drefn ar y ty^ - yawn - a dringo mwy o fynydds

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
sgarff, boots a teits, dail y coed yn cwmpo, tân gwyllt, pen-blwydd, cynnau tân coed, guinness a chawl, ffilm a nofel dda

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
o'n i'n arfer joio'r mushrooms meddal 'na gyda siafins coconyt ar y top. os y'n nhw'n gwerthu ffags, ma'n siwr mai dau baced o golden virginia sen ni'n cael erbyn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Jemeima Mop » Gwe 01 Medi 2006 5:34 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Na, dw isio mwy! Meddwl am drimings Dolig yn Tescos mis nesa yn ddigon i godi cyfog arna'i.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Fy hogan ora''n y byd yn cael ei hurddo yn Rhiwlasferch 8)

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Dim difaru peidio a gwneud ond difaru gwneud. A dw i'm am ddeud be!

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Yr orens a'r browns

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Gwerth punt o rainbow crystals, dwy bunt o sweet peanuts a dwy bunt o rhubarb and custards. mmmmmmmmmmmmmm!
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron