Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Medi 2006 9:40 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
R'un peth a Gwahanglwyf, gemau rhwngwladol y Hydref yng Nghaerdydd. Un broblem - sai'n byw lan 'na rhagor. D'oh. :trist:


Ty agored 'chan. Dere lawr. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan 7ennyn » Gwe 01 Medi 2006 9:55 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Dwi'n hen! Tydi'r haf yn golygu dim i mi.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Mae pob moment mor ddiflas a'u gilydd. Fel dwi 'di deud, dwi'n hen.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Dwi'n rhy hen i ddifaru dim byd.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Dwi'n edrych ymlaen at pan fydd yr amserlenni bws yn newid. Heblaw am hynny mae'r hydref yr un mor ddiflas a'r haf i hen foi fel fi.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Gwerth £5 o fint imperials plis.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Sad 02 Medi 2006 10:33 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Na ddim rili. Nol i waith a dim gwyliau tan Dolig

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

Treulio taith dren yn Iwerddon yn gwneud llunia.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

Mynd i Steddfod.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

Y cynnwrf dwi'n ei deimlo wrth gamu allan i fore ffresh a dail crin o gwmpas fy nhraed. Cael y teimlad bod 'na rhywbeth cyffrous ar fin digwydd (does 'na byth chwaith).

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Ydi fflos candi yn cyfri? Os felly gwerth £5 ohono (yn groes i'r farn gyffredin - yr un gwyrdd di'r gora o'm profiad i).
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 02 Medi 2006 12:56 pm

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Dio ddim drosodd nes ha bach Mihangel i fi...ond ma wedi bod yn haf llawn a difyr felly dwi'n hapus iddo symud mlaen...

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Yfed cania yng nghefn y byncws efo llwyth o fets yn Sesiwn Fawr. Aidial.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Gwyl gerdoriaeth fawr (h.y. mwy na Sesiwn), ond wnes i r'un peth llynedd...a dwi'n mynd i ATP yn Rhagfyr (iei!)

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Dail crin yn yr haul clir. Brathiad main y gwynt ar fy moch yn dynodi dyfodiad y gaea.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Wine Gums.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron