1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Haf? Pwy haf?
Wnes i weithio trwy rhan fwya ohono fe, a cholli'r Eisteddfod gan bod gen i ddim gwylie ar ol i'w cymryd, bww.
Na, sai'n falch bod yr haf drosodd. Oni fyddai'n haf o hyd ynde...
2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Dyweddio gyda fy nghariad, a darganfod 'mod i'n feichiog
3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Mynd i lan y mor yn amlach...er, ma'r tywydd di bod braidd yn cach tydi?
4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Cael gwisgo siwmperi gwlanog, a chwtsho lan, a bwyta soup. Edrych mas trwy'r ffenest a gweld môr o ddail ar y llawr. Boreau ffres.
5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Waw, pum punt ar losin? Fi'n dwlu ar y milk bottles na, a hefyd y mefus mawr na.