1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Di'o fawr o ots gen i a dweud y gwir. Gan mod i'n gweithio, mae well gen i pan dydi hi ddim yn braf gan fod y swyddfa yn annioddefol.
2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Wnesh i'm neud lot wrth sbio nol, ond roedd Wakestock yn dda. Sesiwn fawr braidd yn siomedig.
3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Dim felly. Peidio mynd i'r Almaen ar gyfer Cwpan y Byd o bosib. Ond a deud y gwir, roeddwn yn gwybod fod gena'i ddim digon o wyliau ar ol na digon o bres beth bynnag.
4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Dwi'n mynd i Milan mewn pythefnos ac i Kaunas ddiwedd Hydref, ond heblaw am hynny, y Tymor Peldroed yn ol yn ei anterth.
5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Revels.