Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan mam y mwnci » Gwe 01 Medi 2006 9:49 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Na dw cos dwi'n un gwael am godi yn y bore fel mae' ond mae ychydig yn haws yn yr haf a bron yn amhosib yn y gaeaf :crio:

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Mynd a'r mwnci lleiaf i'r mor yn dinas dinlle am y tro cyntaf - a'i gweld yn mwynhau cael ei thro lawr gan y tonnau

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Cymryd mwy o amser i ffwrdd (nid fy newis i oedd peidio a gwneud!)

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Cawl a pharatoi at y nadolig! a'r scedule ar y teli!

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Haribo tangtastic a poping candy (Volcano !)
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Cymro13 » Gwe 01 Medi 2006 10:05 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Ddim yn bothered really - ond oleia sdnim rhaid i fi fynd nol i'r ysgol

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

gigs steddfod

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

Mynd i Pesda Roc

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

ddim yn gorfod gwario cymaint o arian a nes i yn yr haf - Steddfod Sesiwn Fawr - Faenol ayb

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

BlackJacks
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 01 Medi 2006 10:16 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Ydw mynd uffarn. Gas gennai haul a thywydd poeth, a phawb yn mynd ond am mynd i'r traeth a barbiciws.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

Yr Eidal yn ennill Cwpan y Byd!

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

O ystyried safon fy iechyd oni'n lwcus medru gwneud diawl o'm byd.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

Wel, a dweud y gwir, dim byd. Ond dw i'n licio'r ffaith ei bod hi'n nosi'n fuan.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Mmmm, fizzy cola bottles. A stamps. Handi, stamps, 'lwch.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 01 Medi 2006 10:20 am

Ray Diota a ddywedodd:
Mephistopheles a ddywedodd:1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Nadw ffwc, ail flwyddyn coleg yn cychwyn wan, happy fun time drosodd GGRRRR


O, ie... druan a thi! Ail flwyddyn coleg - uffern! :rolio: :winc:


Ffycin hel meddwl be fydd o'n dweud pam ma'n gorffan ei drydydd...

GEN TI DDAU FLYNADD ARALL O FEDDWI Y MWNC FELLY GWNAED (a wedyn gna TT fel fi er mwyn ceisio hanner-clingio-ar fod yn sdiwdant)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 01 Medi 2006 10:36 am

A mwy - dim yn CMD ma'r chimp? Wel ma' gen i 3 arall so fedrai'm cwyno :)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 01 Medi 2006 10:54 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Nadw - dwi'n cerdded i'r gwaith bellach (wedi dechrau swydd newydd 20 munud o waith cerdded o'r ty - a dim lle i barcio'r car hydynoed ar ddiwrnod diog - Llenwi'r car efo petrol ond unwaith y mis - sy'n fantais dwi'n ei defnyddio fel mantra wrth lychu ar y ffordd i'r gwaith...)

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

Ym dwnim. Y gwyliau yng Ngwlad y Basg...os nad mai yn y Gwanwyn oedd hynny...ma'r Haf yn teimlo mor bell â hynny'n ôl bellach.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

Gwesylla, a chynnal barbaciw mawr meddwol yn yr ardd (dau beth ydi rheina, nid mod i isho gwersylla yn yr ardd)

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

Dail crin

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?[/quote]

Oes siocled mewn siop losin?? Os felly, diawl o far mawr o jocled (dwi ddim yn un am losin 'as in sweets')
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Medi 2006 11:11 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Mae e drosodd am mai dyma'r cyntaf o Fedi, Dwlwen. Wy byth yn fodlon. Yn y gaeaf o'n i'n edrych mlaen at y gwanwyn, edrych mlaen i'r haf yn y gwanwyn... chi'n deall lle mae hyn yn mynd.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

Canu 'Stand By Your Man' yn feddw iawn tu fas i fan Cowbois Rhos Botwnnog yn oriau mân bore Sadwrn Steddfod.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

Mynd nôl i Ystradfellte neu fynd ar daith iawn ar y beic

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

Cyffro a bwrlwm Caerdydd ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol mis Tachwedd.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Flying saucers. Ai dyna'u henw nhw? Y pethe na sy'n toddi yn eich ceg, wedyn mae 'na sherbert ar y tu fewn. Rheina.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Jeni Wine » Gwe 01 Medi 2006 11:11 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Nachdw. Dwi reit flin i ddeud y gwir. Dwi dal i obeithio am Ha Bach Mihangel.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Priodi fy Mihangel bach fy hun.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Mynd i nofio i'r mor yn amlach.
Dringo mwy o fynyddoedd.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Mynd i'r parc a chicio dail i'r awyr.
Cawl cartra.
Tan gwyllt.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Cola bottles fizzy
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan nicdafis » Gwe 01 Medi 2006 11:40 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?

Ydw, braidd, ond dw i wedi joio ar y cyfan.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?

Dim un moment, ond yr wythnos treuliais i gyda Philippa cerdded Clawdd Offa yn y gogledd.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?

Peidio dweud wrth yr Urdd "diolch am y cynnig, ga'i feddwl amdano am gwpl o ddiwrnodau?"

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?

Madarch gwyllt.

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?

Siwr o fod prynu rhywbeth neis o Wlad y Belg. Mae'r siop losins heb ei hail yn Aberteifi.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 1.9.2006

Postiogan Sili » Gwe 01 Medi 2006 11:43 am

1. Ydych chi'n falch bod yr haf drosodd?
Ma'n hen bryd i mi fod n'ol yn Gaerdydd ffwl-teim erbyn hyn felly ydw mashwr.

2. Beth oedd eich hoff foment chi o'r haf?
Deffro am bump y bora mewn bwthyn bach ar Ynys Enlli a cherdded i ben y mynydd yno i weld hi'n gwawrio dros Pen Llyn a'r mor efo nghariad.

3. Oes 'na rywbeth chi'n difaru peidio â gwneud dros yr haf?
Cael swydd yn y marwdy eto a'r diffyg arlunio mawr.

4. Beth yw eich hoff beth chi am yr hydref?
Y tywydd a chael gwisgo siwmperi gwlannog eto :D

5. Mae gennych chi bum punt yn eich llaw a siop losin lawn o'ch blaen. Beth yw'r peth cyntaf y byddwch chi'n ei brynu?
Fyddwn i ddim, dwi'm yn ffan enfawr o fferis. Ond os fysa raid, yna bag bychain o pear drops neu licrish mashwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron