Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Wil wal waliog » Gwe 08 Medi 2006 12:31 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Cicio Pwdin Blew mas o'r ty.



Shit, newydd weld bod ti wedi neud yr un jôc! Neu wyt ti'n golygu tynu nôs Sadwrn a wedyn cico'i mas nôs Sul jyst cyn Match of the Day 2?
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 08 Medi 2006 12:39 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Ffindo rhwbeth i neud ym mis Mai pan dwi mas o job.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

cal celfi newydd i'r fflat a fframio posteri i'w rhoi ar y wal...

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Cysgu. Ffac wy'n knackered. A bach o booze-o.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?

Aros mewn. Dries i aros mewn nithwr ond on i yn pub erbyn naw. So heno, wy'n aros mewn.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Fi'n lico lists, gweud gwir.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan mam y mwnci » Gwe 08 Medi 2006 1:03 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Y job bressennol (yn de jenni?) - dio ddim yn edrych yn debygol iawn ar hyn o bryd.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

Trefnu parti penblwydd y mwnci fenga - dwi'n siwr o anghofio neud rhywbeth - danfon gwahoddiadau oedd hi llynnedd.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Yfed gweddill y Magners sydd yn y frij gan mai mond yn yr haf allai stumogi seidr.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Fyc ol ar y rate yma ! :winc:

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Dwi'n gwneud rhestrau o'r rhestrau dwi angen eu gwneud felly be da chi'n feddwl!?
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 08 Medi 2006 1:46 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Gal mas o'm overdrafft a gal gonsol newydd Nintendo. A cwpla siopa dolig mewn dicon o amser, a anrheg didi i'r wej am ei benblwydd hi mewn amser. Hmm allai wneud e gyd a cyflawni ceisio bod yn y ddu? :?

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Cal jobyn. Odd bod yn di-waith ar ol gwpla coleg yn wych am fel 2 mis, ond nawr mae'n uffach o diflas. Cwpl o cyfweliadau ar y ffordd tho.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Es i ar freebie rownd brewery Tomos Watkin gyda'r tafarn lleol neithwr ar ol alwad funed ola' o fy ffrind sy'n gwitho 'na. Felly ma hwna'n neud lan am unrhywbeth fi dim yn gyflawni erbyn dydd llun.
Mmm Cwrw Haf, Cwrw Braf, a seidr Taffy Apples am ddim. :D

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Ffindo digon o arian i myn lawr Abertwe da'r bois.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
So fi'n lico rhestri be sy rhaid fi cyflawni, ma fe gormod fel gwaith coleg/ysgol...fi'n crastinator broffesynol t'wel.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Manon » Gwe 08 Medi 2006 10:53 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
'Sgwennu lot fawr iawn a dysgu fy hogyn bach sut i siarad a cherdded.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
"mw mw" "me me" a "gog gog". :D

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Golchi'r dillad gwylia' i gyd, 'neud cacen pen blwydd i fy chwaer, llnau'r ffrij a chael paneidiau lu efo ffrindia'.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Mae gen i 7 munud o heddiw ar ol. Gorffan 'sgwennu hwn.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Na'i byth 'neud y petha yna i gyd eniwe... Ond mae o'n neis cael m'bach o uchelgais.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Gwen » Sad 09 Medi 2006 1:21 pm

Manon a ddywedodd:"gog gog"


Gog gog? :? :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Manon » Sad 09 Medi 2006 3:18 pm

Gwen a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:"gog gog"


Gog gog? :? :?:


Ieir. Mae o'n galw nhw'n "cwac cwac" ar hyn o bryd. 8)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Cacamwri » Sul 10 Medi 2006 8:27 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Sortio lle byw ar gyfer y bych pan ddaw o gwanwyn nesa.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Bwcio gwyliau dramor i rhywle - heb fod dramor ers haf llynedd, a dwisho brec!

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Dim byd o bwys.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Sortio ryw gystadleuaeth coginio dwi'n meddwl gneud da'r ffermwyr ifanc - meddwl am beth i wneud fel starter, y main a'r pwdin. Pryd o fwyd i ddau, a'r testun ydi 'a premier meal for a film'. Den ni'n neud Pirates of the Caribbean. Felly neges breifat os oes gen unrhyw un syniadau!

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Dwi'n ffeindio bod rhestru pethau gwaith yn dda iawn, achos dwi fel arfer yn neud yn siwr bo fi'n mynd trwy'r rhestr. Ond ar ran pethau eraill fel gwaith ty, siopa a cynlluniau ar gyfer y dyfodol, dwi fel arfer jyst yn mynd gyda'r flow!
[/quote][/b]
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan krustysnaks » Sul 10 Medi 2006 1:37 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Dwi ddim yn siwr iawn. Cael tymor da yn y Brifysgol, cael cariad steady (am newid), mynd i weld Chelsea, mynd i weld George Michael, bod yn iach ayb.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Torri asgwrn cefn gwaith darllen traethawd am berfformiad Plaid Cymru yn etholiad 1983 yn y darlun Prydeinig. A chyrraedd ugain oed.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Dadbacio'n llwyr a threfnu nodiadau tymor diwetha - fe'i paciwyd yn gyflym ac yn anhrefnus.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Yr un peth a'r uchod gan bod diwedd y penwythnos ar gyrraedd. Fel arall, dwi am wylio y Carolina Panthers yn erbyn yr Atlanta Falcons a rownd derfynol yr US Open.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Dwi'n hoffi gwneud 'to-do lists' yn y tymor byr ond dwi ddim yn gosod targedau concrit yn y tymor hir, dim ond rhoi pethau fel 'dwi angen gweithio'n galetach' yn fy nyddiadur.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron