1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Colli sdôn (fyddai'n hapus efo hannar
)
2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Mynd 'nôl i coleg a bod ar ben y gwaith, am unwaith
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Cwsg, llenwi "dyddiadur gwaith"
ella bysgiad, twmpath
4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Dim wir. Gorffen gwaith am 12
a gawni weld! Chwara gêms trw p'nawn. Owff, a gobeithio bydd hi'n bwrw fel na fyddai'n gorfod lladd gwair.
5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Dim ar y maes ella, ond oes dwi'n meddwl. Wel, oes ar y maes hyd yn oed achos nai'm gwneud fel arall. Ma 'di gneud i mi feddwl be dwi'n neud yn lle a phryd dros y dyddia' nessa p'run bynnag!