Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 08 Medi 2006 10:36 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Trefnu cwpwl o gigs da lawr yn G'rdydd.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

Mynd i weld gêm yn y Top 14.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Cicio Pwdin Blew mas o'r ty.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?

Cwpwl o boteli o win coch.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Gweld beth sy'n digwydd fydda i'n gwneud fel arfer.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Sleepflower » Gwe 08 Medi 2006 10:44 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Cicio Pwdin Blew mas o'r ty.




:lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Sili » Gwe 08 Medi 2006 10:45 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Tymor cyntaf arall yn y brifysgol.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Symud mewn i'r ty newydd yng Nghaerdydd.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Cyfyr albym Cowbois Rhos Botwnnog... ella.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Ambell i sosij oddi ar y barbeciw a llond bol o seidar cryf a cherddoriaeth yn y Ty Newydd :D

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Oni'n arfer gorfod gwbod yn union be oni'n fwriadu ei wneud ychydig ddyddiau o flaen llaw, ond dwi di bod yn did i arfer ac wedi cychwyn mwynhau cymud petha fel ma nhwn dod yn ddiweddar.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 08 Medi 2006 11:15 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Sgwennu drama.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Dechra sgwennu drama.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Dim.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Gwaith.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Yndi, mae o'n help dwi'n meddwl.

sori. atebion hynod o ddiflas wsos yma. mewn mood felly ma raid
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 08 Medi 2006 11:18 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn? Clirio dyledion, prynu presantau dolig a cael uffar o sesh go iawn noson calan.
2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis? Newydd roid gora i fy hen job a wedi cael un newydd. Erbyn diwedd y mis gobeithio byddai yn neud fy job newydd yn dda achos dwi really eisiau gwneud yn dda yn y job yma achos fyddai'n gweithio dros rhywbeth dwi wiroineddol yn coelio yn.
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos? Erbyn diwedd y penwythnos byddai wedi bod adref i Gaernarfon am y tro cyntaf ers 4 mis. Dwi weid cael poen yn fy mol yr un fath a ges i'n LLangranog pam oeddwn i'n fach oedd jysd cau mynd nes bod fi'n dod adref. Gobiethio erbyn diwedd y benwythnos bydd y boen yna wedi mynd am tua 2 fis.
4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd? Llnau fy nanadd, brwsio fy ngwallt, bwyta bob dim dwi ffansi bwyta yn y gegin efallai mynd am beit efo'r genod heno. Dim byd rhy uchelgeisiol.
5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...? Rhywbeth i anelu at mae'n siwr.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan garynysmon » Gwe 08 Medi 2006 11:22 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Dod allan o'm overdraft.
2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Cyrraedd yr 22ain (diwrnod cyflog) heb fynd dros y limit.
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Gwylio Spurs yn enill yn Old Traffordd.
4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Gwylio Bangor yn curo'r Trallwng.
5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Gweld be sy'n digwydd, achos does yr un o'r uchod yn mynd i ddigwydd beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan garynysmon » Gwe 08 Medi 2006 11:25 am

Dwlwen a ddywedodd:2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Fydda i yn yr Eidal am yr wythnosau nesa’, felly cwpwl o sgyrsiau syml yn yr iaith falle…


A finna. Mynd i Milan wythnos 'nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 08 Medi 2006 11:29 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Siopa 'Dolig yn llwyddiannus (ych)

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Clirio'r sdafall sbar

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Ymlacio adra yn y gogledd (fat chance?!)

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Pacio i fynd adra, llnau'r gegin a'r stafell fyw, ac os 'dyn nhw'n lwcus, rhoi dwr glan i'r pysgod a'r terapin. Ac os byddai'n llwyddiannus (ac ella os nad fyddai'n llwyddiannus), gwydraid neu ddau o wenwyn melys.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Oes, ma pwrpas. Achos heb restru, does dim modd croesi pethau oddi ar restr. A mae hynny'n rhoi cryn bleser i fi. Mwy o bleser na chyflawni'r tasgau eu hunain... :?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 08 Medi 2006 11:59 am

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Ymlacio adra yn y gogledd (fat chance?!)


Fat chance! :crechwen:

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:gwydraid neu ddau o wenwyn melys.


Dwi'n gem!

Ma'r holl sôn am bres yma wedi'n ecseitio i'n lân am y cynnydd yn yr ofyrdraffd a benthyciad myfyriwr a lle gai unfesdio fo a ballu :wps:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Wil wal waliog » Gwe 08 Medi 2006 12:22 pm

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?[/b]
- Llyfr. Fi'n ddarllenwr anhygoel o araf.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?[/b]
-Bwriadu cyflawni gwario yr arian ges i fy nhalu am weithio mis dwetha'. Fi'n llwyddo bob mis :D

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
-Cico fflat mate mas o'r ty.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
-Lot o bethe anniddorol iawn yn gwaith (wel anniddorol i bawb arall, ond fi'n gallu bod yn bach o geek).

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?[/quote]
-Nagos achos ma' cynlluniau yn newid drwy'r amser.
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron