Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Medi 2006 9:05 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 08 Medi 2006 9:11 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Colli sdôn (fyddai'n hapus efo hannar :( )

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

Mynd 'nôl i coleg a bod ar ben y gwaith, am unwaith

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Cwsg, llenwi "dyddiadur gwaith" :drwg: ella bysgiad, twmpath

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?

Dim wir. Gorffen gwaith am 12 8) a gawni weld! Chwara gêms trw p'nawn. Owff, a gobeithio bydd hi'n bwrw fel na fyddai'n gorfod lladd gwair.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Dim ar y maes ella, ond oes dwi'n meddwl. Wel, oes ar y maes hyd yn oed achos nai'm gwneud fel arall. Ma 'di gneud i mi feddwl be dwi'n neud yn lle a phryd dros y dyddia' nessa p'run bynnag! :)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Chwadan » Gwe 08 Medi 2006 9:20 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Blaw siopa Dolig, dim lot mashwr. Trio peidio magu pwysa ar ol ei golli o.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Rhoi diwedd ar y diflastod o fod adre...gormod o ddim nid yw'n dda :rolio:

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Trefnu noson allan yn Nolgella cyn i bawb fynd o'ma.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Penderfynu sut i fanteisio ar y tywydd braf, yna'i neud o. Trio atgyfodi'r lliw haul ar fy nghoesa. Yfed gwin.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Ma angen rhestr efo petha diflas fel gwaith ty a ballu. Neith y petha diddorol ddigwydd heb restr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan joni » Gwe 08 Medi 2006 9:46 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Dechre safio arian.
2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Trio peidio mynd dros yr overdraft limit...eto.
3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Meddwi o leia unwaith.
4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Bygyr ôl.
5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
Dim llawer o bwrpas i mi yn bersennol, ond wy'n deall shwt ma fe'n gweithio i rhai pobl.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Gwe 08 Medi 2006 9:47 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Safio Arian !

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

Safio Arian !

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Safio Arian !

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?

Safio Arian !

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Ym . . . Safio Arian ?????
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan HBK25 » Gwe 08 Medi 2006 9:51 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Colli 4 ston - dwi'n pwyso bron i 20 ar y funud :( :ofn: :?

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?

Cael rywfaint o wyliau.

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?

Peidio cael atgofion drwg o nos Sadwrn :crechwen: :(

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?

Gorffen tynor hefo Aston Villa yn y saith uchaf ar Football Manager 2006 ar yr Xbox 360.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?

Oes - er mwyn eich atgoffa o beth 'sgen ti i'w gwneud yn y dyfodol agos.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 08 Medi 2006 10:07 am

1. bod yn fam dda. :ofn: ma hunna'n swnio mor sgeri!
2. gorffan gwaith a bod y ty yn barod.
3. gwaith.
4. gwaith... ddylwn i ddim bod ar maes-e yn atab blydi pump am y penwythnos!
5. oes.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Ray Diota » Gwe 08 Medi 2006 10:22 am

HBK25 a ddywedodd:1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Colli 4 ston - dwi'n pwyso bron i 20 ar y funud :( :ofn: :?


aelod tewa'r maes?

be ti'n recno, gwahanglwyf? :winc:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan HBK25 » Gwe 08 Medi 2006 10:32 am

Ray Diota a ddywedodd:
HBK25 a ddywedodd:1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?

Colli 4 ston - dwi'n pwyso bron i 20 ar y funud :( :ofn: :?


aelod tewa'r maes?

be ti'n recno, gwahanglwyf? :winc:


Mae geiriau'n brifo..... :( :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos - 8/9/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Medi 2006 10:33 am

1. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn?
Cychwyn y flwyddyn o'n i'n llawn plans i sgwennu ffilm. Sai meddwl fod hwnna am ddigwydd rhagor, ond geith e fynd ar y rhestr ta beth.

2. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y mis?
Fydda i yn yr Eidal am yr wythnosau nesa’, felly cwpwl o sgyrsiau syml yn yr iaith falle…

3. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y penwythnos?
Ffindo cyfle i dreulio mwy na dwyawr yng nghwmni’r bachan, er sai’n gweld e’n digwydd. Ymddiheuraf o flaen llaw os eith hi i’r plan B bondigrybwyll – sef meddwi’n dwll a mwydro pennau ffrindiau…

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei gyflawni erbyn diwedd y dydd?
Coffi. Yn fuan. A lleihau’r rhestr ‘pethau I’w gwneud’.

5. Oes pwrpas rhestru be’ chi’n bwriadu gwneud, neu yw hi’n well jyst gweld be sy’n digwydd...?
‘Post its’ yw fy ffrindiau gorau – ond ar gyfer pethe diflas fydda i'n 'u defnyddio nhw. Wy’n meddwl fod Chwadan wedi taro’r hoelen ar ‘i phen.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron