Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ari Brenin Cymru » Gwe 15 Medi 2006 4:16 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
0-5 awr.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
http://www.maes-e.com, http://www.gwyddbwyll.com, http://www.bebo.com, http://www.welsh-premier.com, http://www.europeantour.com, http://www.bbc.co.uk, http://www.flickr.com, http://www.yahoo.com/games, http://www.blogiadur.com

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Ydw
4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Y ddau.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Yndw, pam im de.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan Sili » Gwe 15 Medi 2006 4:58 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Rhyw awran neu ddwy mashwr os nad oes gennai waith ymchwilio coleg i neud neu os dwisio siarad efo rhywun penodol.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e, flickr, ebay, blogger a myspace mwy na heb i gychwyn. Hotmail ac amazon a ballu 'fyd.

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Dau Twix a paned cyn mynd i gwely.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Byth yn prynu papurau newydd, dim ond darllen beth sydd yn y ty ar y pryd. Dwi'n gwylio'r newyddion bob dydd ar y teledu.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Ydw, gan mod i wedi ei lwytho ar y cyfrifiadur pan oni'n 14 a mae o wedi aros yno er mod i'n ei gasau a chas perffaith. Fyddai byth yn siarad efo pobl arna fo oni bai am ambell berson sbeshal, dim ond ei ddefnyddio i edrych ar e-bost.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Mephistopheles » Gwe 15 Medi 2006 5:08 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

Lot gormod

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

maes-e, myspace, google, pgatour.com, bebo, europeantour.com, bandit247, football365

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

Dibynnu os dwisho bwyd dydi

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Daily Post, Cambrian News, Y Wylan a'r Mail on Sunday, oherwydd heina sy'n ty fel arfar

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Yndw, hen beth handi, a costio llai na negeseuon tecst.
I Like escalators, they cannot break, they can only become stairs
Rhithffurf defnyddiwr
Mephistopheles
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 291
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 11:16 am
Lleoliad: Uffern

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 15 Medi 2006 9:01 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

2 awr, o leia, masiwr ar gyfartaledd. Arglwydd, ma hyna'n 14 awr yr wythnos! 60 awr y mis!! 730 awr y flwyddyn (30 diwrnod) !!! :ofn: Get y laiff!

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

Maes-e, Lloyds TSB (i weld faint dwi'n y coch), Cymdeithas, Cymuned, Ancestry.

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

Yndw, ag yn gneud uffar o lanast.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Papur newydd - Independent a'r DP yn ddyddiol, Y Cymro, Caernarfon & Denbigh Herald a Cambrian News yn wythnosol, a'r (South :rolio: ) Wales on Sunday. Byth yn darllen newyddion ar y we.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Nadw. Ym, be di MSN Messenger? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan krustysnaks » Gwe 15 Medi 2006 9:16 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Gormod o amser o lawer - oriau. Tua 5 neu 6 awr, falle.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
BBC, fy nghyfrifon ebyst, facebook, maes-e, flickr, popjustice.

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Dwi'n bwyta pethau bach fel Cola Cubes, Tic-Tacs a Snickers tra'n defnyddio'r cyfrifiadur yn eitha actif. Fe fyddai'n cael cinio o'i flaen tra'n gwylio Prime Minister's Questions bob wythnos.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Mae Dad yn prynu'r Times bob dydd ac fe fyddai'n ei ddarllen ond dwi cael fy newyddion oddi ar y we gan fwyaf. Pan dwi i ffwrdd o adre, mae popeth yn dod o'r we.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Ydw, dwi'n defnyddio MSN. Mae'n ffordd rhad a chyflym iawn o gadw mewn cysylltiad gyda llawer o bobl ar unwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan bartiddu » Gwe 15 Medi 2006 9:30 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
2 / 4 awr
2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
maes-e, Cymru'r Byd, BBC Health, Ladbrokes :wps: , Sporting Life, PBF forums, Hattrick.org ( dim .com!) Real History Radio! :crechwen: Youtube
3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Te a teisen
4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Darllen papur newydd o flaen y sgrin.. beth oedd 11 yn groes ar groesair y W.M. heddi?
5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Odw, achos mae e' 'na, a ti medru siarad efo pobol dwl arall sy'n byw unrhywle ar y blaned! :?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Jemeima Mop » Sad 16 Medi 2006 11:58 am

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Dim hanner digon. Dw i rhwng dau feddwl prynu laptop.
2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e, hotmail a myspace
3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
S gen i'm desg. Ond ar y funud dw i'n sipian siocled poeth mewn gwe-gaffi.
4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we? Mae newyddion y dydd yn ddychrynllyd felly dw i'n trio peidio sbio.
5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Msn, yndw, pam lai?
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

Postiogan Mali » Sad 16 Medi 2006 4:22 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Llai nag oeddwn i ....tua dwy awr.

2 Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
maes-e, BBC Cymru'r Byd, BBC News, icWales,North Wales Index,S4C Rhygweithiol , blogiau Cymraeg ayb

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Weithiau gai gacen efo fy mhaned !

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Byth yn prynu papur newydd fel arfer, oni bai pan dwi'n trafeilio . Daily Post pan dwi'n Nghymru a Vancouver Sun pan dwi'n crwydro yma.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Be dio? :wps: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron