Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 15 Medi 2006 1:27 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 15 Medi 2006 1:37 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

Tua 26 awr y dydd.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

maes-e, meis-peis, flickr, gwgl, cymdeithas

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

Dwi yn heddi, ond ddim fel arfer. Dim ond un cafe sy'n Blaenau...

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Weithiau dwi'n prynnu'r Western Snail, weithiau y Daily Pest (a wedyn dyfaru)

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Na. Thing PC yw e nagi fe?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan HBK25 » Gwe 15 Medi 2006 1:38 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

Gormod!

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

WWE.com; Youtube; 411 Wrestling; IGN; BBC; Maes-e; Wikipedia.

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

Na - jest yfed fel arfer.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Y ddau.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Yndw - siarad hefo ffrindiau.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan joni » Gwe 15 Medi 2006 1:41 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Dim. Dwi BYTH ar y we.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
we..fan..nau? Sai'n deall

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Na.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Wnai fflico trwy'r Sun yn pyb fin nos.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Nadw. Sai'n deall nhw.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan mam y mwnci » Gwe 15 Medi 2006 1:42 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Mae hyn dipyn bach fel gofyn 'sawl uned o alcohol ydach chi'n yfed yr wythnos?' neu 'sawl awr fyddwch chi'n gwisgo'ch contactlensess bob dydd' mae'r gwir wastad lot mwy na fyddai'n gyfaddef - felly os ddwedaf 3 awr - gewch chi fel arfer dwblu.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e , e-bay , HSBC a i-tunes

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
ydw bob dydd.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Prynu papur ond didm pob dydd.

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Ydw - achos bod o'n handi er ei fod yn eithaf anoying hefyd ar adegau , ond gan amlaf mae o'n handi - yn arbennig wrth geisio gwneud trfniadau mynd i'r pub! :winc:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Socsan » Gwe 15 Medi 2006 2:03 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Tua dwy awr y dydd fel arfer... ond os oes gen i draethawd i'w sgwennu, gwaith glanhau i'w wneud, neu unrywbeth pwysicach na syrffio'r we yna unrhywbeth rhwng 9 a 24 awr. Rhaid i mi ddysgu sut i sdopio procrastinatio.

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e, hotmail, bbc news, maisbes, topshop, itunes, facebook, gwefannau siopa dillad yn gyffredinnol, hsbc, blogiadur...

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Weithia, dim byd ridiciwlys fel cinio dydd sul, ond ambell i frechdan a ballu.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Ar y we fyddai'n darllen y rhan fwyaf o'r newyddion, ond fyddai'n prynu papur newydd mawr swmpus fel trit rwan ac yn y man (ar ddydd sul fel arfer)

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Dwi'n stiwdant - o'n i'n meddwl fod MSN yn orfodol ar gyfer pob sdiwdant? Rhaid i mi gyfaddef ddo mod i yn seinio fewn hefo "appear offline" neu "busy" y rhan fwyaf o'r amser, gosa fod na rywun difyr mlaen (dwi jyst MOOOOOOOOR bwysig) :winc:
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 15 Medi 2006 2:45 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Gormod, yn enwedig achos fi'n di-waith ar hyn o bryd. A fi ar fastad dial-up o hyd. Fi fod i disgwl trwy gwefannau recriwtment a bethe, ond fi bron byth yn. :wps:

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
The E-field, MySpace, Facebook, Powerwrestling.com, Football365, Flickr, Wikipedia

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Nagw, jesd dished o de.

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Fi'n dwgyd Western Mail fy nhad pan dwi gatre, ond do, o ni arfer pryni e yn coleg 'fyd. I darllen yn darlithie wrth gwrs. :)

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Odw, di iwso e ers dipyn, ffordd haws i catw mewn cysylltiad da'ch ffrindie a achos ma e-bost hotmail gyda fi, i checo dy e-bost ar r'un pryd.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 15 Medi 2006 3:41 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Lot
2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
gwgl(by default); maes-e; reuters; world-newspapers.com; bbc; theonion; a rhai mochedd.
3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Weithie. Yn ol y fenyw ar y cwrs Health & Safety ma fe mwy mochedd na llyo'r toilet. Peth od bo fi heb weud hyn ar ol i' nhw ffindo fi ar n gwrcwd yn toilets yn byta panini.
4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?Weithie'n prynu papur, fel arfer ar wicendz, ond ymweld a world-newspapers.com fyddai d'wrnode 'ma.
5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Na. Fi'n luddite.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Re: Pump am y Penwythnos 15.9.2006

Postiogan anffodus » Gwe 15 Medi 2006 3:48 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Tua awr bob diwrnod, mwy os oes gin i wbath arall ddyliwn i fod yn neud

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e a youtube

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Na, byth

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Weithia dwi'n cael golwg ar y Western Male a'r Daily Post ond ddim bob dydd

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Ydw, ffordd o gadw cysylltiad efo ffrindia a siarad efo pobl ddiddorol dwi ddim yn nabod.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Cymro13 » Gwe 15 Medi 2006 3:50 pm

1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?

Gormod!!!

2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?

Maes-E, I Be, Hotmail, Cymdeithas, CymruX, SNP, BBC, Guardian
(Gwasg Prifysgol Cymru+Gwales+Llyfrgell Gen -Rhan o fy Ngwaith)

3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?

Ydw

4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?

Na ma papurau newydd yn dod am ddim i gwaith i fi ddarllen nhw a'r newyddion y We - Guardian.co.uk

5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?

Methu defnyddio fe yn gwaith achos ma cyfrifiadauron di crasho ddwy waith o'i achos - nid fy mai i oedd y cynta :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron