1. Faint o amser fyddwch chi'n ei dreulio ar y we bob dydd?
Tua dwy awr y dydd fel arfer... ond os oes gen i draethawd i'w sgwennu, gwaith glanhau i'w wneud, neu unrywbeth pwysicach na syrffio'r we yna unrhywbeth rhwng 9 a 24 awr. Rhaid i mi ddysgu sut i sdopio procrastinatio.
2. Pa wefannau fyddwch chi'n mynd atyn nhw fwyaf?
Maes-e, hotmail, bbc news, maisbes, topshop, itunes, facebook, gwefannau siopa dillad yn gyffredinnol, hsbc, blogiadur...
3. Ydych chi'n bwyta wrth eich desg?
Weithia, dim byd ridiciwlys fel cinio dydd sul, ond ambell i frechdan a ballu.
4. Ydych chi'n prynu papur newydd neu ond yn darllen newyddion ar y we?
Ar y we fyddai'n darllen y rhan fwyaf o'r newyddion, ond fyddai'n prynu papur newydd mawr swmpus fel trit rwan ac yn y man (ar ddydd sul fel arfer)
5. Ydych chi'n defnyddio negeseuydd fel MSN Messenger? Os ydych, pam, ac os na, pam?
Dwi'n stiwdant - o'n i'n meddwl fod MSN yn orfodol ar gyfer pob sdiwdant? Rhaid i mi gyfaddef ddo mod i yn seinio fewn hefo "appear offline" neu "busy" y rhan fwyaf o'r amser, gosa fod na rywun difyr mlaen (dwi jyst MOOOOOOOOR bwysig)