1) Beth sy’n unigryw am eich pryd a gwedd?
Does fawr o ddim yn unigryw amdanaf fi o ran pryd a gwedd. Ond fydda i'n eitha seit pan fydda i'n feddw, cofiwch chi.
2) Beth yw’r peth cynta fydde rhywun yn sylwi am eich pryd a gwedd mewn clwb pan ma’r goleuade’n dod lan a chi’n cal y foment letchwith ‘na o benderfynnu p’un ai chi am gal twtsh o sex ne beidio?
Ar ddiwedd nos Clwb Ifor myfi a ydwyf chwyslyd, ac fel arfer yn cysgu ar y soffa.
3) Os yw rhywun yn dechre ffeit ‘da chi… odych chi’n sgwario lan, neu pwsïo mas?
'Sneb byth yn dechra ffeit arna i. Un o'r pethau da am fod yn fyr ydi nad ydi neb yn fodlon gwneud hynna. Mae o fel hen bobl: gewch chi ddweud be dachiso i bawb a phopeth, a gewch chi get-awe. Yn fy mhrofiad i.
4) ydech chi’n dueddol o bisho pobol off? Pe byddech chi wedi pisho rhywun off, ai chi fydde’r cynta i ymddiheuro?
Wel ydw a nadw. Os dw i'm yn licio rhywun mi anghytuna i efo nhw am bopeth dan haul a nef a mae hynny'n anoio nhw ond ymddiheuraf i ddim canys un felly ydwyf i. A dweud y gwir dw i yn pisio pobl off a dw i'm yn ymddiheuro. Dibynnu pa fath o dymer dw i mewn de.
5) Faint o arian i neud porn film, gyda’r garantî na fydde fe’n cal I werthu yn y Deyrnas Unedig hynod hon?
Na, na. Na.
6) Yw pobol sy’n watcho bestiality porn yn rong?
Wel, ydi. Mae o jyst yn wiyrd, tydi?