Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 06 Hyd 2006 12:32 pm

Rhai difrifol wythnos 'ma i wrthbwyso rhai digrif Mr Raymond Diota wythnos dwetha (fe ddwedes i hynna, ond wedyn fe wnes i draed moch o bethe)

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Manon » Gwe 06 Hyd 2006 12:55 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

'Dwi'n coelio yn Y Fam Ddaear (nid y faeswraig, yr un go iawn :winc: ) a 'dwi'n coelio mai Duw Cariad Yw. Unwaith nesh i feddwl yn iawn be oedd hynna'n feddwl, nath lot o betha' ddechra' neud synnwyr!

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniadau, ond mae euogrwydd am neud petha' drwg yn bwer yn ei hun.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Yndi, ond gan bobol sy'n camddefnyddio enw Duw.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Cael pobol i feddwl am y byd fel 'global village'. os 'sa pawb yn gweld ein cyd-earthlings fel brodyr a chwiorydd yn lle fel pobol yn bell bell i ffwr, 'sa lot fawr iawn o'r drwg yn diflannu.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Ffalabalam, Glanaethwy a bands o'r 80au.

Waw. 'Dwi'n teimlo'n reit serene 'wan.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Ray Diota » Gwe 06 Hyd 2006 1:10 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

Nagw, ond wy'm yn beio pobol sy yn, chwaith. Wy'n gweld shwt ma'n helpu ambell waith. Dwi'n parchu pobol sy'n credu yn rhwbeth, dwi ddim yn parchu pobol sy'n edrych lawr ar bobol sy ddim yn credu...

On ma raid i fi weud bo fi jyst ddim rili'n deall shwt ma pobol yn gallu rhoi eu holl ffydd yn y fath bethau... chware teg iddyn nhw weda i, ond jawl eriod se rhwbeth yn cal fi lan 5 gwaith y dydd i fynd ar fy nglinie ne be bynnag se ni'n dechre gofyn cwestiyne...

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

Se ni'm yn galw nhw'n bwerau... ond ma nhw'n fwy na syniadau. Hynny yw ma 'da' a 'drwg' yn mwy na jyst mater o farn...

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

Saimo wir... ond ma fe'n gallu bod yn bach o blydi niwsens ambell waith ondyw e?

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?

Mynd am beint 'da allah. Betio galle ni yfed e dan y bwrdd.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?

sai'n deall y cwestiwn, gwahanglwyf... ond be wedai yw bo fi di trio gwylio stwff ar s4c 5 o weithie wthnos ma a gorfod newid y sianel bob tro. big fat poo.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan joni » Gwe 06 Hyd 2006 1:19 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Dim rili. Wi di bod trwy'r holl busnes o cael fy conffyrmo yn yr eglwys a sdwff, ond byswn i ddim yn dweud mod i'n grefyddol. Wedi dweud dweud hynna, weithie dwi'n meddwl am y peth yn ddwys. Ond dwi fel arfer yn feddw ar y pryd.
2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Heb mynd mewn i draethawd am y peth, fyswn i'n dweud taw syniadau yw nhw sy'n dod allan o foesau pobl. O ble daw'r moesau ar y llaw arall, sai'n gwbod.
3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Dim ar y cyfan. Dwi'n credu taw ffycwits sy'n creu drwg boed yn grefyddol a'u peidio.
4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Hedfan.
5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Pwy natho nhw 'neud' i gyrraedd lle ma nhw ti'n feddwl? Siwr o fod rhywun weddol uchel lan - <snip> er enghraifft.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 1:57 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

Dw i'n agnostig radicalaidd, dw i ddim yn credu mewn dim byd, ddim hyd yn oed ym marwolaeth Duw.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

Syniadau diwylliannol. Mae rhaid, os am fyw mewn cymdeithas, cytuno ar y rheolau, ond dydy hynny ddim yn golygu ni all y rheolau newid o bryd i'w gilydd. Oedd mynd i'r rhyfel yn Irac yn "ddrwg" neu'n "anghyfreithlon"? Neu, mewn geiriau eraill, ydy smygu dail cannabis yn "ddrwg" neu'n "anghyfreithlon"? Mater o farn yw'r cyntaf, mater o bwys yw'r ail. Mae pob rhyfel yn ddrwg, ond mae'r un yn Irac yn anghyfreithlon - dyna'r unig sail am brostestio yn ei herbyn.


3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

Mae'n rhan ohonon ni, hyd yn hyn. Byddai'n hawdd iawn i ddweud "mwy o ddrwg", dyw e ddim fel bod 'na brinder o enghreifftiau. Ond mae'n anodd dychmygu sut byddai'r byd heb grefydd. Byddai'r iaith Gymraeg wedi hen farw, wrth gwrs, heb ddylanwad y Beibl, a'r capel wedyn. Yr eglwys sy'n gyfrifol am ledu'r "gair" yn ogystal â'r "Gair" - fyddwn ni wedi bod mewn cyflwr druenus heb ddylanwad y mynachdai yn ystod yr oesoedd tywyll. Mae'r syniad o Dduw yn sail i'n diwylliant, mae'r metafforau a mythau yn rhan ohonon ni.

Ond maen nhw i gyd yn dangos eu hoedran, a dyn ni wedi newid (diolch i'r storiau yma, yn rhannol) ers oes Crist. Mae'n amser i ni sgwennu storiau newydd.

(Sori, ateb dryslyd, ond cwestiwn amhosibl i'w ateb.)


4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?

<a href="http://www.theonion.com/content/node/28151">Egluro'r rheol am beidio lladd</a>.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?

Sori, dw i ddim yn credu ynddyn nhw, chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Daffyd » Gwe 06 Hyd 2006 2:05 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Yn wahanol i rhan fwyaf o fy ffrindiau oedd wedi hen stopio coleio mewn Duw, ro ni dal yn coleio mewn rhyw fath o Dduw tan o ni tua 12, wedyn neshi actually ffindio allan fod o ddim yn bodoli gan fod pehta drwg yn digwydd i Gristnogion. Rioed di troi nol ers huna.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Mae da a drwg yna er mwyn cadw pawb mewn order yn y gymdeithas. Os y bysa da a drwg ddim yn bodoli, fysa na ddim boundries, bysa na ddim ffordd o stopio'r hyn sydd yn stopio'r gymdeithas rhag ddatblygu a bysa na ddim ffordd o allu datblygu y gymdeithas chwaith.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Mwy o ddrwg. Yn syth ma na unrhyw un yn cefnogi rhywbeth neu yn rhan o rywbeth, yna mae'n debygol y bydd rhyw fath o wrthdaro rownd y gongol. Efo crefydd, ffans pel droed, Saeson a Cymry, unrhywbeth. Felly, mae crefydd, erbyn hyn, yn gwneud mwy o ddrwg na da.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Rhoi Adam Price yn arweinydd y Cynlluiad, a cymeryd rheolaeth o ddwylo pledleiswyr i roi'r X mewn man hynod gyfleus.

Wedyn, yn amlwg, bysw ni yn gwneud i Sion Porn fynd yn invisible iddo gael mynd i stafall newid merchaid.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Mr. Cheque.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Sili » Gwe 06 Hyd 2006 2:05 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Dwi'n credu fod na fwy i fywyd na jest beth sydd ar y wyneb, ond dwi'm yn credu mewn Duw Cristnogol fel y cyfryw, na'r syniad o'r nefoedd ac uffern. Dwnim. Dwi'm yn Gristion, mi roi hi felna.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniad o beth sy'n dderbynniol mewn cymdeithas ynde. Barn yr unigolyn sydd yn cael ei siapio gan ei amgylchiadau i fedru diffinio rhwng y ddau begwn. Ma syniada pobl o "da" a "drwg" yn newid rhwng gwahanol ardaloedd.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Amhosib deud.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Edrych yn smyg.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Ser S4C? Ser S4C?
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Jeni Wine » Gwe 06 Hyd 2006 2:08 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

Na. Ddim fel y cyfryw. Ond dwi yn credu mewn pwer natur.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

Bocsys colomen.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

Mwy o ddrwg dwi'n meddwl. Er, does dim modd fesur faint o ddaioni mae crefydd yn ei achosi, am wn i.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?

:crechwen:

5. Pwy wnaeth sêr S4C?

Pa ser?
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 06 Hyd 2006 2:39 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Nid mewn Duw na phwer uwch, ond mewn daioni cynhenid ac ysblander natur.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Mae gweithred dda un yn weithred ddrwg rhywun arall. Pwy sydd i ddweud pwy sy'n iawn? Y frwydr gyson yw ceisio am y balans gorau. Weithiau mae'n troi un ffordd, weithiau'r ffordd arall. Fel Olwyn Fortuna a bywyd Ignatius J Reilly!

"Oh, what foul cruelty fortuna has spun to me today!" :D

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Roeddwn i'n credu ei fod, ond eto faswn i siwr o fod ddim yn sgwennu fama'n Gymraeg hebddo fo...

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Sortio allan y drws ffrynt sy'n sdicio, ma di bod yn mynd ar y'n wic i ers oes.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?

HTV?
Delwedd
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 06 Hyd 2006 3:59 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

Ydwyf

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

Na, mae da a drwg, ond weithiau nid ydi'r ffin mor amlwg a hynny rhyngddynt.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

Na

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?

Yfed drwy'r dydd a diley hangowfyrs.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?

Martin Geraint
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron