gan nicdafis » Gwe 06 Hyd 2006 1:57 pm
1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Dw i'n agnostig radicalaidd, dw i ddim yn credu mewn dim byd, ddim hyd yn oed ym marwolaeth Duw.
2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniadau diwylliannol. Mae rhaid, os am fyw mewn cymdeithas, cytuno ar y rheolau, ond dydy hynny ddim yn golygu ni all y rheolau newid o bryd i'w gilydd. Oedd mynd i'r rhyfel yn Irac yn "ddrwg" neu'n "anghyfreithlon"? Neu, mewn geiriau eraill, ydy smygu dail cannabis yn "ddrwg" neu'n "anghyfreithlon"? Mater o farn yw'r cyntaf, mater o bwys yw'r ail. Mae pob rhyfel yn ddrwg, ond mae'r un yn Irac yn anghyfreithlon - dyna'r unig sail am brostestio yn ei herbyn.
3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Mae'n rhan ohonon ni, hyd yn hyn. Byddai'n hawdd iawn i ddweud "mwy o ddrwg", dyw e ddim fel bod 'na brinder o enghreifftiau. Ond mae'n anodd dychmygu sut byddai'r byd heb grefydd. Byddai'r iaith Gymraeg wedi hen farw, wrth gwrs, heb ddylanwad y Beibl, a'r capel wedyn. Yr eglwys sy'n gyfrifol am ledu'r "gair" yn ogystal â'r "Gair" - fyddwn ni wedi bod mewn cyflwr druenus heb ddylanwad y mynachdai yn ystod yr oesoedd tywyll. Mae'r syniad o Dduw yn sail i'n diwylliant, mae'r metafforau a mythau yn rhan ohonon ni.
Ond maen nhw i gyd yn dangos eu hoedran, a dyn ni wedi newid (diolch i'r storiau yma, yn rhannol) ers oes Crist. Mae'n amser i ni sgwennu storiau newydd.
(Sori, ateb dryslyd, ond cwestiwn amhosibl i'w ateb.)
4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
<a href="http://www.theonion.com/content/node/28151">Egluro'r rheol am beidio lladd</a>.
5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Sori, dw i ddim yn credu ynddyn nhw, chwaith.